Llygredd yn lladd miloedd o bysgod yn Afon Clywedog
- Cyhoeddwyd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau fod miloedd o bysgod wedi eu lladd o ganlyniad i lygredd yn Afon Clywedog ger Wrecsam.
Mae swyddogion o'r corff wedi bod yn ymchwilio ers iddyn nhw gael eu galw nos Fawrth 4 Medi.
Er bod CNC yn dweud eu bod wedi darganfod ffynhonnell debygol y llygredd, dydyn nhw ddim yn gallu datgelu rhagor o fanylion "am resymau cyfreithiol".
Fe effeithiodd y llygredd ar hyd at naw cilomedr o'r afon, gan arwain at golli sawl math o bysgodyn - brithyll yn bennaf, ond hefyd penlletwad, llysywen bendoll, gwrachen farfog, gleisiad, twb y dail, llysywen, crothell, draenogyn dŵr croyw a philcod.
Dywedodd llefarydd ar ran CNC eu bod yn trin y digwyddiad "fel mater brys".
"Mae ein swyddogion yn parhau i fod ar y safle yn casglu samplau dŵr i ddadansoddi ac i asesu maint effaith hyn ar bysgod a bywyd gwyllt yr afon.
"Byddwn yn parhau i ymchwilio i achos y digwyddiad hwn a byddwn yn casglu tystiolaeth er mwyn cymryd camau gorfodi os bydd angen."
Gofynnodd i unrhyw un sy'n dod ar draws achosion o lygredd neu bysgod yn dioddef i roi gwybod i CNC drwy gysylltu â'r llinell gymorth digwyddiadau ar 03000 65 3000.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2018