Cau siopau yng nghanol Wrecsam yn rhan o 'broblem fwy'

  • Cyhoeddwyd
Dôl yr EryrodFfynhonnell y llun, Google

Dyw colli sawl adwerthwr o ganolfan siopau yn Wrecsam ddim yn broblem leol, ond yn hytrach yn broblem ar hyd y DU, yn ôl rheolwr y safle.

Mae Topshop, Topman, Dorothy Perkins a Burton - pob un yn rhan o'r Arcadia Group - wedi cyhoeddi nad ydynt yn bwriadu adnewyddu eu prydles yng nghanolfan Dôl yr Eryrod yn y dref.

Dywedodd rheolwr y ganolfan, Kevin Critchley, fod y newyddion yn "siomedig", ond ei fod yn gobeithio denu mwy o adwerthwyr yn y misoedd i ddod.

Yn ôl llefarydd ar ran Arcadia Group, maen nhw wedi "ymdrechu i gynnig opsiynau gwaith eraill" o fewn y cwmni i staff presennol.

Bydd Starbucks a Greggs hefyd yn gadael y safle.

Problem 'ar hyd y wlad'

Daeth y cyhoeddiad wrth i ganolfan Dôl yr Eryrod ddathlu deng mlynedd ers agor yn 2008.

"Nid Dôl yr Eryrod yn unig sy'n gweld hyn, a dim Wrecsam yn unig chwaith, mae i'w weld ar hyd y wlad," meddai Mr Critchley.

"Mae adwerthu brics a morter wedi bod drwy gyfnod anodd.

"Yn sicr mae canolfannau tref wedi cael hi'n anodd am rai blynyddoedd o ganlyniad i ddatblygiadau tu allan i'r dref a thwf y rhyngrwyd.

"Dydw i ddim yn credu bod Wrecsam mor ddrwg ag y mae pobl yn aml yn ei awgrymu. Mae Wrecsam yn weddol fywiog i fod yn onest."

Dôl yr EryrodFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Topman, Topshop a Burton ymysg y siopau fydd yn cau mis Medi

Ychwanegodd fod y rhan fwyaf o'r cwmnïau cenedlaethol sydd wedi gadael Wrecsam - fel TJ Hughes, Poundworld a Grainger Games - wedi cael yr un drafferth ar hyd y wlad.

"Y peth pwysig i'w gofio yw nad problem Wrecsam yw hwn. Mae'n bobman."

Dywedodd llefarydd ar ran Arcadia Group: "Bydd siopau Topman, Topshop a Dorothy Perkins yn Wrecsam yn gorffen masnachu ar 22 Medi 2018."

Fe wnaeth llefarydd ar ran Starbucks hefyd gadarnhau y bydd eu siop yn Nôl yr Eryrod yn cau ddydd Sul 9 Medi.

"Hoffwn ddiolch i'n cwsmeriaid ffyddlon dros y blynyddoedd, a byddwn yn cynnal parti cau ddydd Sul lle mae croeso i bawb yn y gymuned i ymuno."