Fedrwch chi adrodd geiriau ein hanthem genedlaethol?
- Cyhoeddwyd
Bydd miloedd yn ei ganu heno yn Stadiwm Dinas Caerdydd wrth i Gymru herio Gweriniaeth Iwerddon, ond fedrwch chi adrodd geiriau Hen Wlad fy Nhadau neu oes angen y gerddoriaeth arnoch chi?
Yn fwy pwysig, ydych chi'n gwybod geiriau'r ail bennill?
Bu'r gohebydd Ednyfed Davies yn gofyn i bobl roi cynnig arni yn y clip archif yma o'r rhaglen 'Heddiw', a ddarlledwyd yn 1963.
Ond yn arbennig i chi ddarllenwyr Cymru Fyw, dyma holl eiriau ein hanthem genedlaethol... y pennill cyntaf, yr ail a'r trydydd.
Croeso!
Hen Wlad Fy Nhadau
Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi,
Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri;
Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mâd,
Tros ryddid gollasant eu gwaed.
Cytgan:
Gwlad, Gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad,
Tra môr yn fur i'r bur hoff bau,
O bydded i'r heniaith barhau.
Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd;
Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd
Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si
Ei nentydd, afonydd, i fi.
Cytgan
Os treisiodd y gelyn fy ngwlad dan ei droed,
Mae hen iaith y Cymry mor fyw ag erioed,
Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad,
Na thelyn berseiniol fy ngwlad.
Cytgan