5 peth difyr am Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd

Criw Parc, Y Bala wnaeth deithio i Genefa yn yr 1980au gyda'u neges heddwchFfynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Criw Parc, Y Bala wnaeth deithio i Genefa yn yr 1980au gyda'u Neges Heddwch ac Ewyllys Da

  • Cyhoeddwyd

Bob blwyddyn ers 1922 bydd Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn cael ei chyhoeddi ym mis Mai.

Mae'r neges sydd wedi ei hysgrifennu gan bobl ifanc Cymru i bobl ifanc yng ngweddill y byd wedi bod yn ysbrydoli gweithgarwch dyngarol a rhyngwladol ers dros ganrif.

Erbyn heddiw mae'r neges yn cyrraedd dros 10 miliwn o bobl ar y cyfryngau cymdeithasol yn unig.

Mae neges 2025 yn ymateb i newyddion bod un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi ac fe allwch wrando arni ar raglen Dros Frecwast, BBC Radio Cymru.

Ond faint wyddoch chi am gefndir y neges? Dyma bum peth difyr am Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd.

1. Y Parch Gwilym Davies o Gwm Rhymni oedd arloeswr y Neges

Un o sylfaenwyr Neges Heddwch ac Ewyllys Da Cymru oedd Gwilym Davies (1879-1955), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Cymreig o Gwm Rhymni.

Roedd yn heddychwr mawr ac yn flaenllaw wrth sefydlu Undeb Cymreig y Cenhedloedd Unedig ac yn ddiweddarach UNESCO.

Syniad Gwilym Davies oedd danfon Neges o Ewyllys Da gan bobl ifanc Cymru i weddill y byd ac fe gyflwynodd y syniad mewn cynhadledd yn Llandrindod yn 1922.

Credai mewn dod â phlant y cenhedloedd at ei gilydd, ac fe benderfynodd Syr Ifan, sylfaenydd yr Urdd, y dylai'r Urdd ymuno gyda'r fenter. Roeddent am gyhoeddi'r neges er mwyn dileu'r anwybodaeth a'r rhagfarnau a oedd yn bodoli rhwng cenhedloedd y byd.

Neges ewyllys daFfynhonnell y llun, Yr Urdd

2. O'r cod Morse, i'r radio a chyfryngau cymdeithasol

Erbyn heddiw mae'r Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn cael ei rhannu mewn fideo ar y cyfryngau cymdeithasol, a'i darllen yn fyw ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales.

Ond beth oedd yn digwydd ganrif yn ôl?

Anfonwyd y Neges Heddwch ac Ewyllys Da gyntaf ar ffurf cod Morse drwy Swyddfa'r Post ar 28 Mehefin 1922, gan y Parch Gwilym Davies.

Yn 1922, ymatebodd cyfarwyddwr gorsaf radio Tŵr Eiffel ym Mharis i'r neges drwy ei hailanfon o Dŵr Eiffel a hynny mewn cod Morse.

Yn 1924, derbyniwyd ymateb gan Archesgob Uppsala yn Sweden ac un oddi wrth weinidog addysg Gwlad Pwyl.

Darlledwyd y neges ar donfeddi'r BBC World Service am y tro cyntaf yn 1924. Daeth yr ymateb gyntaf o'r UDA i'r neges yn 1925 a hynny gan Public School 6, Manhattan, Efrog Newydd.

Heddiw mae'r neges yn cael ei chyfieithu i dros 50 o ieithoedd.

Y neges yn cael ei rhannu i weddill y byd dros y radio yn 1960Ffynhonnell y llun, Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Y neges yn cael ei rhannu i weddill y byd dros y radio yn 1960

3. Mae'r neges wedi ei hanfon yn ddidor ers 1922

Yr Ail Ryfel Byd, clwy traed a'r genau a phandemig Covid - tri pheth sydd wedi rhwystro Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol rhag cael maes dros y blynyddoedd ond does yr un digwyddiad hanesyddol wedi rhwystro'r Neges Heddwch ac Ewyllys Da.

Cafodd y neges ei hanfon yn ddidor hyd yn oed yn ystod yr Ail Ryfel Byd!

Yn 1946 derbyniwyd ymateb gan bobl ifanc Yr Almaen i'r neges: "Mae'n flynyddoedd ers inni glywed oddi wrth blant Cymru. Mae hi wedi mynd yn ddu arnom ni. Hoffem ni glywed oddi wrthych eto."

Llythyr ar gyfer y diwrnod heddwch ac ewyllys da Dydd Gwener 18 Mai, 1938 o NorwyFfynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Llythyr ar gyfer y diwrnod heddwch ac ewyllys da Dydd Gwener 18 Mai, 1938 o Norwy

4. Mae gan bob neges thema arbennig

Mae gan y Neges Heddwch ac Ewyllys Da, sydd bellach yn ei 103ain flwyddyn thema wahanol bob blwyddyn.

Ysgrifennwyd y neges eleni gan rai o aelodau'r Urdd a myfyrwyr o goleg addysg pellach Coleg y Cymoedd, gyda chymorth Katie Hall o'r band Chroma, y dylunydd graffeg Steffan Dafydd a'r elusen fyd-eang Achub y Plant.

Mae'n gwneud galwad frys am newid ar ôl i ystadegau diweddar Llywodraeth y DU gadarnhau bod bron i un o bob tri plentyn (31%) yng Nghymru bellach yn byw mewn tlodi.

Ond pa themâu eraill sydd wedi bod?

Roedd y neges gyntaf yn 1922 yn trafod cariad at gyd-ddyn a heddwch byd. Roedd neges 1969 yn cyfeirio at Martin Luther King ac yn galw ar ddiwedd i hiliaeth. Sychder Ethiopia oedd thema neges 1998 tra roedd neges 2020 yn ystod pandemig Covid yn archwilio stopio'r cloc ac ailddechrau.

Fel y gwelwch, mae pob neges yn adlewyrchiad o beth sy'n effeithio Cymru a'r byd ar y pryd.

Awduron Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2025Ffynhonnell y llun, Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Awduron Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2025

5. Atgofion cenedlaethau o bobl ifanc

Bellach mae cannoedd ar gannoedd o bobl ifanc wedi bod yn rhan o gyfansoddi'r neges flynyddol.

I ddathlu canmlwyddiant Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn 2022 fe ofynnodd Cymru Fyw i bobl rannu eu hatgofion nhw o fod yn rhan o greu'r neges. Gallwch ddarllen eu hatgofion isod:

Dros y blynyddoedd mae'r neges wedi'i chyflwyno mewn ffurfiau gwahanol.

Yn 1978 cyhoeddodd y grŵp Hergest neges ar ffurf cân.

Mi oedd Geraint Davies yn rhan o'r broses gyfansoddi, ac mae wedi cadw copi o'r gân gafodd ei chyfieithu i amryw o ieithoedd eraill.

"Thema'r gân oedd Estyn Dy Law, a'r teitl oedd 'Ni'," meddai nôl yn 2022.

"Mae e'n rhan o batrwm Neges Ewyllys Da yr Urdd ar hyd y degawdau - o estyn llaw i bawb - yr elfen o arwyddair yr Urdd, bydd ffyddlon i'n nghyd-ddyn lle bynnag y bo.

"Ac wedyn wrth reswm er mwyn cyrraedd pobl a chael y neges yma allan mae angen fersiynau mewn sawl iaith."

Roedd Geraint Davies yn rhan o gyfansoddi'r gân 'Ni'

Ffynhonnell y llun, Geraint Davies
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Geraint Davies yn rhan o gyfansoddi'r gân 'Ni'

Pynciau cysylltiedig