Cerydd i gyn-arweinydd Cyngor Môn dros sylw 'saethu Ceidwadwyr'

Roedd Ieuan Wlliams yn ddirprwy arweinydd y cyngor pan gafodd y sylwadau eu gwneud
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn wedi osgoi gwaharddiad am ddweud "bod angen saethu pob Tory".
Fe wnaeth y cynghorydd Ieuan Williams, sy'n cynrychioli ardal Lligwy, y sylw mewn cyfarfod mewnol o'r cyngor ar 12 Mehefin, 2023.
Cafodd gerydd yn dilyn gwrandawiad pwyllgor safonau'r cyngor ddydd Gwener, gan osgoi gwaharddiad.
Fe wnaeth Mr Williams gyfaddef ei fod wedi torri'r cod ymddygiad ac fe dderbyniodd y pwyllgor adroddiad swyddog ymchwilio, oedd yn nodi fod Mr Williams wedi methu â chydymffurfio â'r cod ymddygiad.
Derbyn yr angen i newid ei ymddygiad
Clywodd y pwyllgor fod sawl rheswm am y penderfyniad i geryddu Mr Williams, gan gynnwys ei fod yn ddigwyddiad unigol a'i fod wedi adrodd ei hun.
Dywedwyd hefyd ei fod wedi derbyn yr angen i newid ei ymddygiad yn y dyfodol, a bod Mr Williams wedi dilyn y cod ymddygiad ers y digwyddiad.
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2023
Yn dilyn ei sylwadau, fe gyfeiriodd Mr Williams ei hun at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC).
Daeth OGCC o hyd i dystiolaeth a oedd yn awgrymu bod dau baragraff o'r cod ymddygiad wedi cael eu torri, ac fe gafodd y mater ei gyfeirio at swyddog monitro'r cyngor i'w ystyried gan y pwyllgor safonau.
Y rheiny oedd paragraff 4(b), sy'n nodi bod rhaid i aelodau ddangos parch at eraill, a pharagraff 6(1)(a), sy'n nodi na ddylai aelodau ymddwyn mewn ffordd sy'n dwyn anfri ar eu swydd neu awdurdod.
'Dwyn anfri ar y cyngor'
Dywedodd llefarydd ar ran yr ombwdsmon yn y pwyllgor ddydd Gwener fod sylwadau Mr Williams "wedi dwyn anfri ar y cyngor".
Fe rannodd Mr Williams sylwadau personol yn ystod y cyfarfod ddydd Gwener, na chafodd eu rhannu â'r cyhoedd na'r wasg.
Roedd Mr Williams yn arweinydd y cyngor rhwng 2013 a 2017, ac yn ddirprwy arweinydd y cyngor ac aelod portffolio addysg a'r Gymraeg pan gafodd y sylwadau eu gwneud.
Fe wnaeth roi'r gorau i'w rôl fel dirprwy arweinydd yn dilyn ei sylwadau, a gafodd eu disgrifio ar y pryd fel rhai "amhriodol ac yn annerbyniol" gan brif weithredwr Cyngor Môn Dylan Williams.