Jess Davies: 'Camddefnyddio lluniau wedi newid fy mywyd'

Jess Davies
  • Cyhoeddwyd

Pan oedd Jess Davies yn 15 oed cafodd lluniau noeth ohoni eu rhannu heb ei chaniatâd.

Ers hynny mae lluniau o'r model a'r cyflwynydd o Aberystwyth wedi cael eu camddefnyddio gannoedd o weithiau ar-lein.

Mae hi hefyd wedi derbyn llu o negeseuon amhriodol gan ddynion ar-lein ac mae ei phrofiadau wedi arwain iddi ysgrifennu llyfr, Nobody Wants to See Your D**K, sy'n ceisio egluro casineb at fenywod ar-lein.

Bu'n rhannu ei stori ar Dros Ginio ar Radio Cymru:

Dwi wedi profi misogyny ar-lein ers i fi fod yn 15 neu 16 mlwydd oed ac yn anffodus, pan o'n i'n 15 oed, 'naeth lluniau personol ohona'i gael eu rhannu rownd ysgol fi yn Aberystwyth heb ganiatâd.

'Naeth hwnna rili newid sut o'n i'n gweld fy hunan a gweld fy nghorff i a dros y 15 i 16 mlynedd nesaf, dwi wedi profi lluniau fi yn cael eu defnyddio am bethau fel catfishing (creu cyfrif ar-lein ffug er mwyn twyllo rhywun) ac wedi cael eu rhannu mewn online forums ni'n galw y manosphere (gwefannau sy'n arddel casineb at fenywod).

Roedd e wedi cael ei normaleiddio, ac o'n i eisiau codi sylw a dweud dydy hwn ddim yn normal, a does ddim rhaid i ni ddweud, 'mae hwn yn ran o fod yn fenyw ar-lein'. Dyw e ddim yn iawn.

Jess Davies

Effaith rhannu lluniau noeth

Oedd e'n rili galed achos dwi'n meddwl mae yna lot o siom rownd menywod yn enwedig rhai sy'n cael eu lluniau wedi eu rhannu heb ganiatâd. Rydyn ni dal yn beirniadu y victim ac mae hwnna ddim rili wedi newid lot dros y 15 mlynedd diwethaf.

Nawr, pan dwi'n siarad amdano fe, dwi dal yn cael lot o sylwadau ar-lein yn dweud, 'wel, dyle chi wedi gwybod ddim i wneud hwnna', neu 'rwyt ti ar fai'.

Ond dyna pam o'n i ishe codi sylw a rhannu llyfr i ddweud, mae'n rhaid i ni newid lle mae'r siom yn mynd, achos dydy e ddim yn erbyn y gyfraith i dynnu lluniau o'ch hun os ydych chi'n oedolyn.

Mae lot o'r beirniadu yn mynd at y person sy'n cael ei llun wedi rannu heb ganiatâd a dyle ni roi'r siom yna, a'r beirniadu yna, ar y perpetrator sy'n rhannu'r lluniau yna. Mae fe'n gallu newid sut ydych chi'n meddwl am eich hun, a hefyd sut ydych chi'n byw ar-lein. A'r dyddiau yma rydyn ni gyd yn byw ein bywyd ni ar-lein.

Ond, yn anffodus, beth sy'n dod gyda byw ar-lein ydy misogyny at fenywod.

Camddefnyddio lluniau

Mae lot o'r subcultures ar-lein, lle mae dynion yn rhannu lluniau bach fel cardiau Pokémon. Maen nhw'n tradeio nhw ar-lein mewn ffolders gwahanol.

Ac, yn anffodus, dwi wedi gweld drwy fy ymchwil bod yna ffolders o luniau o ferched o dde Cymru, merched o'r gogledd, merched o Aberystwyth ac mae dynion yn rhannu lluniau'r menywod heb eu caniatâd ac hefyd yn gwerthu'r lluniau yma mewn packs. Maen nhw'n galw nhw'n mega-packs.

Ac weithiau maen nhw'n cadw nhw fel rhyw fath o collector's item ar gyfer defnydd preifat, ond hefyd weithiau i ddefnyddio nhw i setio lan cyfrif ar-lein i drio cael arian mas o ddynion. Maen nhw'n gwerthu nhw mewn rhyw fath o catfishing.

Yn anffodus mae hynna wedi digwydd i fi lle mae lluniau fi (o gyfnod Jess yn gweithio fel model) wedi cael eu camddefnyddio i greu cyfrifon ffug - cannoedd a channoedd o nhw.

Mae'n rhaid i ni ddechrau siarad yn agored am hyn ond hefyd mae'n rhaid i'r tech platforms wneud mwy i gadw menywod yn saff.

Ac mae addysg yn rili, rili bwysig. Felly dwi'n mynd mewn i ysgolion a cholegau yn rhoi gweithdai i blant am fod yn saff ar-lein ac am consent. Ac weithiau, dyma'r tro cyntaf maen nhw wedi dweud y gair yna, consent. Mae'n rili bwysig.

Ond wrth gwrs, mae hwn i gyd yn dod efo arian. Felly, mae'n rhaid i'r Llywodraeth roi arian tu ôl i'r gweithdai yma.

Jess Davies

Dynion yn anfon lluniau anweddus

O'n i'n gofyn i bobl pam ydych chi'n meddwl mae dynion yn rhannu'r lluniau yma heb ganiatâd gyda merched. Mae 75% o ferched sydd yn 12-18 oed wedi cael y lluniau yma o ddynion. Oedd e'n rili diddorol achos oedd y menywod yn dweud 'mae gyd lawr i bŵer'.

Ac roedd y dynion yn dweud, 'sai'n rili'n gwybod, byddai beth yn neud e'. Gyda ymchwil fi yn y llyfr, oedd lot o fe yn dod lawr i bŵer achos dwi'n meddwl maen nhw'n hoffi y ffaith bod fi'n mynd i ddangos hyn (llun anweddus) i ti a ti ddim yn gallu gwneud unrhyw beth amdano fe.

Y manosphere yw'r gair maen nhw'n galw y forums lle mae lot o'r misogyny yma yn digwydd. Ac, yn anffodus, mae pawb yn gwybod yr enw Andrew Tate, ond dim ond un person yw Andrew Tate. Mae llwyth o nhw ar-lein sy'n rhannu y cynnwys yma sydd yn rili misogynistic ac mae fe yn cael effaith ar ddynion ifanc a bechgyn sy'n gweld hwnna a'n meddwl, dyna'r ffordd i drin menywod.

Felly mae'n rili bwysig bod ni'n galw e mas pan ni'n gweld e a ddim jest yn meddwl bod e'n banter achos mae'n cael effaith ofnadwy ar fenywod ac ar ddynion hefyd.

I fi roedd yn help i siarad am hwn, achos dwi'n meddwl mae lot o bobl sy'n mynd trwy hwn yn teimlo'n rili unig ond dydych chi ddim ar eich pen eich hun a siaradwch gyda eich teulu chi, neu os ydych chi yn yr ysgol siaradwch gyda athrawon.

Os yw cynnwys yr erthygl wedi effeithio arnoch mae cymorth a chefnogaeth ar gael yma.