Bethan Richards: 'Dydi anabledd ddim yn diffinio person'

- Cyhoeddwyd
Meddwl yn Wahanol yw teitl a neges bwysig podlediad Cymraeg newydd sydd yn trafod anabledd yn agored.
Bethan Richards yw'r cyflwynydd; cynhyrchydd radio a phrif leisydd y grŵp Diffiniad, sydd bellach bron yn gwbl ddall oherwydd cyflwr sy'n achosi i'r cornbilennau (corneas) ddirywio.
Mae hi ei hun wedi cael profiadau da a drwg; rhywbeth cyffredin i bobl anabl meddai. Ond mae profiad pawb yn wahanol.
Yma, mae hi'n egluro beth ysbrydolodd hi i ddechrau'r podlediad, a pham fod dysgu am brofiad eraill yn eich helpu i ddysgu amdanoch chi eich hun hefyd.
Dysgu am y llon a'r lleddf
Dwi wedi bod yn gweithio fel cynhyrchydd yn y BBC ers dros 20 mlynedd, a dros y cyfnod yna, mae fy ngolwg i wedi gwaethygu cryn dipyn, ac erbyn nawr does gen i fawr o olwg ar ôl o gwbl.
Mae hi wedi bod yn dipyn o siwrne – dim wastad yn un positif - ac mae 'na lot o bethau wedi codi drwy'r siwrne yna; yn llon a lleddf. Ac mae e wedi bod yn dipyn i ymdopi gydag e.
Er mwyn i mi deimlo mod i'n rhoi rhywbeth nôl, nes i ymgymryd â swydd o arwain rhwydwaith staff BBC Ability Cymru, sy'n gofalu am anghenion staff anabl, a thrio hyrwyddo profiadau pobl anabl o fewn y gweithle hefyd.
Yn sgil hynny, ges i lot o gyfleon i siarad gyda llu o bobl anabl, sydd ag ystod mor eang o anableddau, a dwi'n teimlo eu bod nhw wedi bod yn brofiad mor gyfoethog i ddysgu am anableddau pobl eraill; sut mae pobl eraill yn ymdopi, sut mae pobl yn byw gyda'u hanableddau, sut maen nhw'n goresgyn y sialensau sy'n eu hwynebu bob dydd.
A mae wedi gwneud i mi sylweddoli pa mor unigryw yw pob anabledd hefyd. Achos byddai fy mhrofiadau i a fy anabledd i yn wahanol i berson arall sydd yn ddall. Mae'r un peth yn wir am bobl sy'n defnyddio cadair olwyn, neu bobl sy'n fyddar ayyb.
Mae pobl anabl yn unigolion – mor unigryw ag olion bysedd rhywun. Mae gen i stori, felly 'nes i feddwl bod gan bobl eraill stori, ac y bydden i eisiau dysgu sut maen nhw yn byw eu bywydau, a sut maen nhw yn meddwl yn wahanol am fywyd.
'Trio byw y bywyd gorau chi'n gallu'
Dydi lot o bobl ddim yn sylweddoli mae anabledd yn gallu newid o ddydd-i-ddydd, ac mae'n gallu newid o awr i awr. Dyw e ddim yn rhywbeth sy'n aros yr un fath yn aml iawn, a dyw lot o bobl ddim yn sylweddoli hynny.
Mae e hefyd yn dod â lot o ffrindiau i'r parti hefyd; mae'n dod â sgil-effeithiau, fel blinder corfforol, blinder emosiynol, pen tost... mae llawer yn dod gydag anableddau.
Un o'r pethau yna sy'n dod law-yn-llaw yn aml iawn yn y rhan fwyaf o achosion yw problemau iechyd meddwl. Maen nhw'n dod oherwydd ei bod hi'n anodd iawn i ymdopi gyda gymaint o newidiadau a heriau o fewn bywyd sy'n gorfod trio byw y bywyd gorau chi'n gallu o fewn cymdeithas sydd ddim wastad mor hygyrch a chynhwysol ag y gallai e fod.

Mae'r syniad yma o 'dylai pobl anabl gael eu trwsio a'u gwella' yn hen ffasiwn erbyn nawr, ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn gweld mai nid y person anabl yw'r broblem ond y dylai'r byd newid. A dyna'r model cymdeithasol mae'r rhan fwyaf yn ei ddilyn nawr, diolch byth.
Dyna pam fod trio 'neud y byd mor gynhwysol â phosib mor bwysig.
Angen meddwl yn wahanol
Enw'r podlediad yw Meddwl yn Wahanol, sy'n rhywbeth pwysig, oherwydd ni'n trio dangos sut mae pobl gydag anabledd yn meddwl yn wahanol am fywyd, a sut maen nhw'n gorfod meddwl yn wahanol am sut i wneud y tasgau mwya' syml, er mwyn cyrraedd yr un lle â phobl falle sydd heb anabledd.
Ond hefyd, trio cael y gymdeithas i feddwl yn wahanol am anabledd, a thrio cael pobl i sylweddoli mai gonestrwydd a sgwrsio a bod yn agored yw'r peth mwya' pwysig.

Bethan yn canu gyda Diffiniad ar Lwyfan y Maes, Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018
Dwi wedi bod ddigon ffodus i gael y profiadau yna wrth sgwrsio gyda phobl gwbl wahanol, ffantastig yn ystod y podlediad; pob un ohonyn nhw gydag anabledd gwahanol a dwi 'di dysgu cymaint.
Y person sy'n bwysig, a dyw anabledd ddim yn diffinio'r person, ond yn ychwanegu at y person.
Mae rhai straeon yn amrwd iawn i wrando arnyn nhw - mae 'na straeon anodd - ond mae yna hefyd fuddugoliaeth bywyd anhygoel.
Mae 'na gymaint o bethau ni'n gallu eu dysgu am ein hunain ac am ein gilydd, a dwi'n teimlo ei bod hi'n fraint i fod yn rhan o rywbeth sydd yn bwysig eithriadol.
Gallwch wrando ar Meddwl yn Wahanol gydag isdeitlau ar ap a gwefan BBC Sounds, drwy wasgu'r botwm isdeitlau yn y bar chwarae.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd22 Mawrth
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2023