O bacio CDs i fod yn brif weithredwr - Kev Tame a label Sain

- Cyhoeddwyd
O bacio cryno-ddisgiau yn fachgen ysgol i gael ei benodi'n brif weithredwr y cwmni, mae cysylltiad y cerddor Kev Tame gyda chwmni Sain yn mynd yn ôl degawdau.
Ac mae'r cyn aelod o Beganîfs, Big Leaves ac Acid Casuals yn ymwybodol iawn o hanes label recordio hynaf Cymru wrth iddo gychwyn wrth y llyw.
Dywedodd mewn sgwrs ar Dros Frecwast ar Radio Cymru: "'Nes i gofio mynd yno o Ysgol Syr Hugh Owen ar brofiad gwaith, ac o'n i'n meddwl bod fi'n mynd i gael crwydro fewn i'r stiwdio ac hangio allan efo'r cerddorion drwy'r wythnos.
"Ond dim dyna oedd o, o'n i yn y cefn yn pacio'r CDs sy'n mynd allan i'r siopau. Felly gwers bwysig ar sut oedd labelau'n gweithio go iawn tu ôl y llen. Ond fues i'n ôl 'na i'r stiwdio ac ella oedd hwnna'n bach mwy o hwyl."
Roedd Kev wedi dychwelyd yno i ryddhau recordiau Big Leaves ar is-label Sain, Crai ac mae'n cydnabod dylanwad y cwmni ar ei yrfa: "Fel nifer o gerddorion eraill yng Nghymru, mae Sain wedi bod yn rhan bwysig o'r daith i fi, ac mae'n fraint cael parhau â gwaith y cwmni gyda Dafydd Iwan, sy' wedi bod yn ysbrydoliaeth i gymaint ohonom."

Big Leaves
Mae Kev, sy'n wreiddiol o Waunfawr, wedi bod yn gweithio yn y byd cerddorol am flynyddoedd. Yn ogystal ag arwain Oleia, cwmni ymgynghori creadigol sy'n gweithio ar nifer o brosiectau gan gynnwys Gwobr Gerddoriaeth Gymreig, mae hefyd wedi bod yn arwain sawl prosiect yn Sain, gan gynnwys cydweithio gyda'r cynhyrchydd Don Leisure.
Dyfodol Sain
Sefydlwyd Sain gan Dafydd Iwan a Huw Jones yn 1969 ac mae'r cwmni wedi rhyddhau rhai o'r recordiau Cymraeg mwyaf eiconig.
Ac yn ddiweddar Kev sy' wedi bod yn arwain y gwaith ar ddigido nifer o'r traciau yna sy'n dyddio yn ôl i 1969, fel mae'n sôn: ""Mae archif Sain yn drysor cenedlaethol sy'n haeddu ei diogelu a'i dathlu.
"Ond beth sy'n fy nghyffroi i ydy'r dyfodol - recordio a datblygu talent gerddorol newydd yng Nghymru a rhannu'r dalent honno gyda'r byd.
"Pan ti wedi rhedeg cwmni cerddoriaeth neu pan mae wedi bodoli am mor hir a Sain, mae yna ystod eang o beth mae'n ei wneud, ac yn amlwg mae'n rhaid i chi hefyd ymateb i bethau'n fasnachol.
"Ac ar adegau oedd lot o DVDs yn cael eu creu achos oedd boom yn hynny, oedd yna lot o gorau'n defnyddio'r stiwdio achos bod o'n ofod mawr. Ond dwi'n meddwl bod o wastad wedi ei blethu efo rhyw fath o undercurrent o gerddoriaeth ddifyr sy'n pwshio'r boundaries a'r syniadau cerddorol.
"A dwi'n sbïo ar Sain fel cwmni cerddoriaeth i Gymru ac mae yna lot i wneud o fewn y diwydiant yn hynny, wrth gwrs dod a bandiau newydd drwyddo ond hefyd dathlu a gwarchod y gorffennol i'r dyfodol."

Kev Tame yn chwarae gyda Beganifs - cyn iddyn nhw newid eu henw i Big Leaves - ar raglen Y Bocs
Mae nifer o gynlluniau gan Kev i'r dyfodol, gan gynnwys ail record y gyfres Stafell Sbâr Sain, sy' wedi ei guradu gan bartneriaid creadigol.
Dywedodd: "Mae yna lot o bobl efo diddordeb anferthol yn hanes a cherddoriaeth Sain. Mae 'na syniadau am gasgliadau er mwyn dathlu cyfraniadau pobl dros y blynyddoedd i Sain ac wrth gwrs mae bandiau diweddar fel Bwncath newydd rhyddhau cerddoriaeth."
Heriau
Fel pob cwmni cerddoriaeth, mae Sain yn wynebu heriau masnachol, fel mae Kev yn cydnabod: "Mae hynny yn rhywbeth sydd angen i ni gadw llygad barcud arno fo, ond fel unrhyw gwmni cerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt, mae o'n her parhaol i gwmnïau cerddoriaeth weithio allan y ffordd orau i wneud i bethau weithio.
"Rydyn ni i gyd yn gwybod am ddylanwad digidol a'r platfformau digidol a sut mae hynny'n newid pethau."

Menter newydd yng nghanolfan Sain yn Llandwrog hefyd yw'r un i logi gofod cydweithio i gwmniau ac unigolion.
Dywedodd Kev: "Mae yna ganolfan Sain sy'n lle pwysig a rydyn ni eisiau sbïo ar beth rydym ni'n neud i ddatblygu'r man hynny i hybu sgiliau yn yr ardal lleol ac i gadw pobl yn gweithio o fewn yr ardal yna ac yn dod i fewn i gydweithio'n greadigol a fel cwmnïau.
"Felly, mae hwnna i Sain yn ongl arall i ni allu sbïo arno ynghyd efo'r cerddoriaeth."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd21 Awst 2024
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2021