Ffarwel i Barc Goodison - cysylltiadau Cymreig Everton

Cefnogwyr Everton yn gwneud eu ffordd i'r stadiwm eiconig
- Cyhoeddwyd
Daw'r llen i lawr ar 133 mlynedd o hanes pêl-droed brynhawn Sul pan fydd Everton yn wynebu Southampton yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Dyma fydd y tro olaf y bydd tîm dynion Everton yn chwarae ar Barc Goodison, cyn symud i gartref newydd ar lannau Afon Merswy erbyn dechrau'r tymor newydd.
Mi fydd Goodison yn parhau i gynnal gemau tîm merched y clwb - ond mae'n ddiwedd cyfnod i faes sydd wedi cynnal gemau Cwpan y Byd a rowndiau terfynol Cwpan FA Lloegr.
Mae gan Everton gysylltiadau cryf gyda Chymru – fawr o syndod o ystyried bod dinas Lerpwl wedi ei ddisgrifio fel 'prifddinas' answyddogol gogledd Cymru.

Will Cuff
Symudodd Everton i faes newydd Goodison yn 1892 ar ôl gorfod gadael eu cyn gartref – Anfield – oherwydd ffrae dros rent a arweiniodd at glwb arall yn cael ei sefydlu, Lerpwl.
O chwaraewyr sydd wedi gwisgo'r crys glas i gefnogwyr sydd yn teithio i Goodison ar gyfer gemau cartref, mae'r dylanwad Cymreig yn amlwg.
Eisteddle Gwladys Street yw'r teras tu ôl i un o'r goliau yn Goodison a'r enw yn adlewyrchu dylanwad yr adeiladwyr o Gymru gyfrannodd yn fawr at ddatblygiad y ddinas.
Datblygodd Goodison fel stadiwm ac Everton fel clwb gyda Will Cuff yn chwarae rhan amlwg yn y twf.
Rhoddodd Cyff, cyfreithiwr o ran galwedigaeth, hanner can mlynedd o wasanaeth i Everton gan gynnwys bod yn rheolwr a chadeirydd.
Gwraig o Bwllheli, Mary Thomas, oedd mam Will Cuff, fel yr eglurai'r cyn chwaraewr a rheolwr pêl-droed a'r darlledwr, Glyn Griffiths.

Fe aeth Glyn i Goodison am y tro cyntaf ym 1957 pan yn fachgen ifanc.
"Fe aeth hi i Lerpwl i weithio fel gweinyddes lle cyfarfu gyda Henry Cuff, Sais o Lundain," medd Glyn.
"Roedd Mrs Cuff yn siarad Cymraeg ac roedd morwyn o Amlwch yn y tŷ yn gweithio ac yn siarad Cymraeg, a da ni'n credu yr oedd Will Cuff yn siarad Cymraeg.
"Will Cuff oedd Mr Everton – fo ddoth a'r rhifau ar grysau'r chwaraewyr, fo greodd y stadiwm gyntaf gyda dau lefel.
"Fo wnaeth greu'r Goodison Park 'da ni yn ei adnabod."
"Ers pan oeddwn i yn ifanc i Everton oedd y rhan fwyaf o'r bysus yn mynd o ogledd Cymru yn eu hydoedd," meddai.
"Tydyn nhw ddim wedi bod yn siort o gefnogaeth Gymreig dros y blynyddoedd, na'r chwaraewyr chwaith.
"Da ni'n mynd yn ôl i Tommy Jones a Roy Vernon."
Roedd Tommy Jones – neu TG Jones fel yr oedd yn fyw adnabyddus – yn amddiffynwr canol mawreddog yn yr 30au a'r 40au ac yn cael ei ystyried yn un o gewri'r clwb.
Enillodd Roy Vernon, yr asgellwr o Ffynnongroyw, oedd yn rhan o garfan Cwpan y Byd Cymru ym 1958, bencampwriaeth Adran Gyntaf gydag Everton yn 1962.
Chwaraeodd y diweddar Dai Davies dros 80 o gemau mewn saith mlynedd i'r clwb rhwng 1970 a 1977.

TG Jones ym 1939
Roedd Everton yn bencampwyr Lloegr pan gafodd ei arwyddo gan y rheolwr Harry Catterick.
"Fe bwysleisiodd Catterick mai un o'r prif ystyriaethau wrth fy arwyddo oedd yr awydd i fagu cysylltiad Cymreig yn y gobaith y deuai mwy a mwy o ogledd Cymru i ddilyn Everton!" ysgrifennodd Davies yn ei hunangofiant, Hanner Cystal a 'Nhad.
Neville Southall olynodd Dai Davies fel golwr Cymru gan amlygu ei hun fel un o'r golwyr gorau yn y byd yn ystod cyfnod euraidd i Everton.
Chwaraeodd Southall dros 750 o weithiau i'r clwb, yn fwy nag unrhyw un arall gynrychiolodd Everton.
Roedd dau o gyn gapteniaid Everton a Chymru - Kevin Ratcliffe a Barry Horne yn Evertonians ers yn ifanc.
Ratcliffe yw capten mwyaf llwyddiannus Everton – gan arwain y clwb i Bencampwriaeth yr Adran Gyntaf ddwywaith, Cwpan FA Lloegr a Chwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop.
O ran uchafbwyntiau, mae Ratcliffe yn ystyried buddugoliaeth o 5-0 dros Manchester United ym 1984 a'r noson trechwyd Bayern Munich fel dwy o'r achlysuron cofiadwy.

Kevin Ratcliffe yn codi tlws Adran Gyntaf Cynghrair Lloegr yn 1985
Treuliodd Horne bum mlynedd gydag Everton ac yn rhan o dîm Everton enillodd Cwpan FA Lloegr ym 1995 yn ogystal â sgorio dwy gôl arwyddocaol yn Goodison.
Horne sgoriodd gôl gyntaf y clwb yn Uwch Gynghrair Lloegr yn 1992, ac fe sgoriodd yn y fuddugoliaeth dros Wimbledon yn 1994, welodd Everton yn osgoi cwympo o'r brif adran ar ddiwrnod ola'r tymor.
Ond er yr atgofion, mae'r ddau yn cydnabod bod hi'n amser i'r clwb symud i gartref newydd, modern ar lannau Afon Merswy.
Chwaraewr arall oedd wedi cefnogi'r clwb yn blentyn oedd y diweddar Gary Speed.
Fe ymunodd gyda'r Gleision yn 1996 ac uchafbwynt ei gyfnod yn Goodison oedd sgorio unig hat-tric ei yrfa a hynny mewn buddugoliaeth swmpus o 7-1 yn erbyn Southampton yn 1996.

Roedd Neville Southall gydag Everton rhwng 1981 a 1998
Southampton fydd y gwrthwynebwyr ddydd Sul – ac fe fydd y stadiwm yn llawn dop fel y mae hi wedi bod drwy gydol tymor siomedig sydd o leia'n gorffen gydag Everton yn ddiogel.
Mae Parc Goodison wedi dangos ei hoed yn ystod y degawdau diwethaf.
Gyda chlybiau megis Arsenal, Tottenham a Manchester City yn symud i gartrefi newydd modern bu Everton yn ceisio ers peth amser.
"Fues i yno yn gweld gêm Ipswich bythefnos yn ôl a'r gwir ydi 'da chi'n styc tu ôl i bolyn ran amlaf a 'da chi'n gorfod gwyro'ch pen o un ochr i'r llall i weld y ddwy gôl," meddai Glyn.
"Ac os gewch chi seddi yn y corneli mae'n anodd gweld unrhyw beth o gwbl.
"Yn hytrach na phendroni a meddwl am y gorffennol a mynd yn emosiynol ydi gweld beth sydd gan Bramley Moore Dock i gynnig.
"Mae'r stadiwm yn edrych yn fendigedig ac edrych tua'r dyfodol fydd rhaid i ni rŵan."
Mae'r stadiwm newydd – ar safle hen ddociau Bramley Moore – yn gartref newydd ysblennydd ac yn cynnig gobaith o ddyfodol llawer gwell wedi blynyddoedd anodd i'r clwb.
Er hynny bydd gan y stadiwm newydd dipyn o dasg i geisio efelychu awyrgylch ac atgofion unigryw Parc Goodison.

Stadiwm Bramley Moore Dock
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd5 Ebrill
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2021