Teyrnged teulu i ddyn ifanc 'annwyl' fu farw yng Ngwynedd

"Roedd Carwyn yn cael ei garu cymaint ac rydym wedi torri ein calonnau," meddai ei deuluFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

"Roedd Carwyn yn cael ei garu cymaint ac rydym wedi torri ein calonnau," meddai ei deulu

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu dyn fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng beic modur a fan yng Ngwynedd y penwythnos diwethaf wedi rhoi teyrnged iddo.

Roedd Carwyn Huws yn 20 oed ac yn dod o Fethesda.

Bu farw yn y gwrthdrawiad ger Capel Curig ddydd Sadwrn, 10 Mai.

Roedd y gwasanaethau brys wedi eu galw i'r digwyddiad ar yr A5 am 17:31 yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng beic modur a fan.

Er gwaethaf ymdrechion y gweithwyr brys, bu farw Mr Huws - a oedd yn gyrru'r beic modur - o'i anafiadau.

Cafodd dynes - oedd hefyd yn teithio ar y beic modur - ei chludo mewn hofrennydd i Ysbyty Stoke, lle mae hi'n parhau i fod gydag anafiadau difrifol.

'Wedi torri ein calonnau'

Mewn teyrnged, dywedodd ei deulu: "Bu farw Carwyn Huws o Bethesda yn drasig, yn 20 oed, ar Fai 10fed 2025 yn dilyn damwain ffordd ger Capel Curig.

"Mab annwyl i Georgina a Hefin a brawd i Arlun. Roedd pawb a oedd yn ei adnabod yn ei garu, roedd Carwyn yn berson caredig, mwyaf annwyl a byddai bob amser yno i bawb.

"Fel teulu, hoffem ddiolch i BAWB am eu cefnogaeth a'u geiriau caredig a gofyn am barchu ein preifatrwydd yn ystod yr amser dinistriol hwn.

"Yn benodol, hoffem ddiolch i'r Tîm Achub Mynydd, y Parafeddygon, a'r timau Ambiwlans Awyr a weithiodd mor galed i'w achub.

"Roedd Carwyn yn cael ei garu cymaint ac rydym wedi torri ein calonnau.

"Hoffem hefyd ddweud bod ein meddyliau gyda'r teithiwr oedd ar gefn beic modur a dymuno adferiad llwyr iddi."

Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad.

Pynciau cysylltiedig