Cyhoeddi enwebiadau gwobrau BAFTA Cymru 2018

  • Cyhoeddwyd
Eve Myles
Disgrifiad o’r llun,

Mae Un Bore Mercher wedi derbyn chwe enwebiad, yn eu plith mae Eve Myles yn cystadlu am wobr yr actores orau

Un Bore Mercher/Keeping Faith a Born to Kill sy'n arwain y blaen ar restr enwebiadau gwobrau BAFTA Cymru eleni.

Mae'r cyfresi wedi derbyn chwe enwebiad yr un wrth i'r enwebiadau gael eu cyhoeddi brynhawn Iau.

Dwy raglen arall sydd hefyd wedi derbyn nifer o enwebiadau yw Bang a Craith, ill dwy wedi ymddangos ar S4C.

Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal ar 14 Hydref yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd.

Enwebiadau i raglenni S4C

Ymhlith y gwobrau posib i Un Bore Mercher mae Eve Myles wedi ei henwebu ar gyfer gwobr yr actores orau am ei rôl fel Faith Howells, ac mae Mark Lewis Jones yn mynd benben ag Ioan Gruffudd am wobr yr actor gorau.

Mae'r rhaglen hefyd wedi ei henwebu am wobrau dylunio gwisgoedd, cerddoriaeth wreiddiol, ffotograffiaeth a goleuo ac am yr awdur gorau.

Derbyniodd Bang a Craith pum enwebiad yr un, ac mae Parch hefyd yn cystadlu yn erbyn Bang a Born to Kill yng nghategori'r ddrama deledu.

Cafodd Beti George enwebiad yng nghategori'r cyflwynydd gorau am ei gwaith ar y rhaglen Beti George: Colli David, a bydd yn cystadlu gyda Charlotte Church, Gareth Thomas a Rhod Gilbert am y wobr honno.

Seremoni eleni fydd y 27ain yn hanes y gwobrau, a Huw Stephens fydd yn cyflwyno'r noson am y bedwaredd tro.

Yn ogystal â'r enwebiadau yma, bydd Tlws Siân Phillips yn cael ei gyhoeddi ar 4 Hydref.