Carchar am dwyllo pensiynwr bregus ym Mhowys
- Cyhoeddwyd
Mae garddwr hunan gyflogedig o Bowys wnaeth dwyllo pensiynwr bregus wedi ei garcharu am 10 mis.
Fe wnaeth Toby Hamilton, 24 oed o Fachynlleth, bledio'n euog i gyhuddiad o dwyll, gydag enillion anghyfreithlon o £4,200.
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug ei fod wedi cymryd mantais o bensiynwr bregus, Hywel Ellis Davies, oedd yn byw ar ben ei hun yn y Drenewydd.
Dywedodd y barnwr Rhys Rowlands fod y drosedd yn un crintachlyd.
Fe wnaeth gwraig Hamilton, Charlotte sy'n 23, dderbyn dedfryd o bedwar mis o garchar wedi ei ohirio am gelu enillion anghyfreithlon.
'Unigolyn hynod fregus'
Bu farw Mr Davies yn 71 oed yn Rhagfyr 2015.
"Roedd o'n unigolyn hynod fregus oedd yn dioddef o iechyd gwael," meddai'r barnwr.
"Fe wnaethoch gwrdd ag ef ar ôl rhoi pamffled drwy ei ddrws yn hysbysebu eich gwaith garddio. Ac fe wnaethoch ddechrau ymweld ag ef.
"Fe wnaethoch ei ddisgrifio fel rhywun ddaeth yn ffrind. Er hyn fe wnaethoch gymryd mantais ohono."
Gwrandawiad ad-dalu
Fe wnaeth cyfreithwyr oedd yn rhoi trefn ar faterion ariannol Mr Davies ar ôl ei farwolaeth ddod o hyd i'r twyll.
Roedd y gŵr a'r wraig wedi ysgrifennu 11 o sieciau fel rhan o'r twyll.
Clywodd y llys y bydd gwrandawiad arall yn cael ei gynnal i benderfynu faint o'r arian y bydd yn rhaid i Hamilton ad-dalu.
Roedd y barnwr hefyd yn feirniadol fod Heddlu Dyfed-Powys wedi cymryd dwy flynedd i ymchwilio'r achos gan ddweud "yn fy marn i ddoedd hwn ddim yn achos cymhleth ar unrhyw olwg."