Mwy o gyffuriau'n cael eu canfod yng ngharchardai Cymru

  • Cyhoeddwyd
Carchar CaerdyddFfynhonnell y llun, David Goddard/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna 151 achos o ganfod cyffuriau yng ngharchar Caerdydd yn 2017/18

Mae nifer yr achosion o ganfod cyffuriau mewn carchardai yng Nghymru wedi cynyddu 475% yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, yn ôl ffigyrau newydd.

Mae ymchwil Canolfan Llywodraethiant Cymru yn dangos bod y nifer wedi codi o 114 o achosion yn 2013 i 656 yn 2018.

Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi ymrwymo i wario £30m ar ddiogelwch er mwyn atal "y cynnydd yn nifer yr achosion o ganfod cyffuriau" mewn carchardai.

Dywedodd Cymdeithas y Swyddogion Carchar bod y cynnydd yn adlewyrchu prinder staff yn hytrach na'r gallu i ganfod cyffuriau yn well.

Dim ond 9% o gynnydd sydd wedi bod yn nifer y carcharorion yn ystod y cyfnod hwn, ac mae'r achosion o ganfod cyffuriau mewn carchardai yng Nghymru 200% yn uwch na'r canfyddiadau mewn carchardai yn Lloegr.

Mae 46 achos o ganfod cyffuriau wedi bod yng ngharchar newydd Y Berwyn yn Wrecsam. Fe agorodd y carchar ym mis Chwefror 2017.

Y canfyddiadau

Carchar Abertawe sydd â'r mwyaf o achosion o ganfod cyffuriau - 26 achos i bob 100 carcharor.

Roedd 22 achos i bob 100 carcharor yng Ngharchar y Parc a 21 yng Nghaerdydd.

Mae ffigyrau diweddaraf y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dangos:

  • cynnydd cyson o ganlyniadau positif wedi profion cyffuriau gorfodol yn ystod y tair blynedd ddiwethaf - roedd 10.6% o ganlyniadau positif yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym Mawrth 2018;

  • mai y broblem fwyaf oedd sylweddau seicoweithredol - cynnydd o 60% mewn samplau positif;

  • bod yr achosion o ganfod alcohol wedi aros yn gyson yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf - 227 achos i gyd, a 84% ohonynt yng ngharchar y Parc.

System maes awyr

Yn ôl Mark Fairhurst, cadeirydd Cymdeithas y Swyddogion Carchar, dyw'r ffigyrau ddim yn syndod.

Dywedodd: "Os ydych yn cael gwared ar 7,000 o swyddi allweddol, gostwng y gallu i ganfod a rhwystro a smalio bod pob dim yn iawn - dyw hi ddim yn syndod bod cyffuriau ac arfau yn cael eu canfod a bod yna achosion o fwlio, dyled a gofid.

"Dim ond gweithredu cadarn all ddatrys y broblem. Mae'r Gymdeithas am gael offer archwilio tebyg i'r hyn sydd mewn maes awyr er mwyn archwilio person sy'n mynd i garchar.

"Ry'n am gael timau arbenigol i wneud y gwaith a chael cŵn i archwilio bob awr.

"Rhaid cael technoleg i atal signal ffôn a drôns a gwneud yn siŵr bod troseddwyr oddi fewn i'n carchardai yn cael eu hatal rhag drwgweithredu gan gynllun staffio cadarn."

Dywedodd Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru: "Mae canfod cyffuriau ac alcohol y tu mewn i garchardai wedi cael cryn sylw yn ddiweddar ac mae'r data diweddaraf ar gyfer Cymru yn dangos bod amgylchiadau heriol a phryderus yn wynebu y system garchardai.

"Mae'n debygol y bydd Llywodraeth Cymru, gan iddi ddangos ymrwymiad i ddelio â cham-drin sylweddau, yn dangos diddordeb yn y data hwn ac yn y system garchardai yng Nghymru sydd yn dod o dan gyfrifoldeb llywodraeth y DU."

Bydd Mr Jones ynghyd â llywodraethwyr ac uwch swyddogion yn rhoi tystiolaeth ger bron y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ddydd Llun.

'Mwy eto i'w wneud'

Tra'n cydnabod bod "mwy o waith eto i'w wneud" dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai bod amrywiaeth o gamau yn atal "nifer fwy nag erioed" o nwyddau gwaharddedig rhag cyrraedd carchardai. Mae'r camau'n cynnwys:

  • offer sganio i'w wisgo ar y corff

  • technoleg atal signalau ffôn

  • sganwyr cemegol sy'n gallu dweud os mae 'na gyffuriau yn y post

  • ffotogopïo dogfennau i atal trwytho cyffuriau mewn llythyrau at garcharion.

Bydd £30m hefyd yn cael ei wario ar wella diogelwch carchardai.

Dywed y llefarydd fod 3,000 o swyddogion ychwanegol wedi cael eu penodi yn y 18 mis diwethaf gan sicrhau'r nifer fwyaf o swyddogion ers 2013, a bod 41 achos o erlyn carcharorion am dorri'r rheolau mewn 18 mis.