Pâr o'r Barri yn gwadu treisio a cham-drin merched ifanc

  • Cyhoeddwyd
Llys y Goron
Disgrifiad o’r llun,

Mae Avril Griffiths yn wynebu 10 cyhuddiad a Peter Griffiths 14 cyhuddiad

Mae pâr priod o'r Barri yn wynebu cyhuddiadau o dreisio, ymosod yn anweddus a thynnu lluniau anweddus o ferched dros gyfnod o ddwy ddegawd.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Avril Griffiths 61 oed a Peter Griffiths 65 oed yn gweithio fel tîm a oedd yn treisio ac yn ymosod yn anweddus ar ferched rhwng yr 1980au a 1990au.

Roedd y dioddefwyr honedig yn blant ar y pryd.

Mae Avril Griffiths yn gwadu 10 cyhuddiad a Peter Griffiths yn gwadu 14 cyhuddiad.

Dywedodd yr erlynydd Caroline Rees QC fod y cwpwl "wedi ecsbloetio pob un o'r merched er mwyn bodloni eu chwantau rhywiol".

Ychwanegodd eu bod wedi gwneud i'r merched beidio deall "beth oedd yn normal".

Mae Mrs Griffiths yn wynebu pum cyhuddiad o dreisio, tri o gymryd llun anweddus o blentyn a dau o ymosod yn anweddus.

Mar Mr Griffiths yn wynebu wyth cyhuddiad o dreisio, tri chyhuddiad o gymryd llun anweddus o blentyn a thri chyhuddiad o ymosod yn anweddus.

Dywedodd Ms Ress bod y diffynyddion yn gwadu'r cyhuddiadau ac yn dweud nad oedd yr hyn sy'n cael ei honni wedi digwydd.

Mae'r achos yn parhau.