Ateb y Galw: Yr actor Jonathan Nefydd
- Cyhoeddwyd

Yr actor Jonathan Nefydd sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddo gael ei enwebu gan Sera Cracroft yr wythnos diwethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Cofio rhedeg mas i whare pêl-droed yn yr ysgol gynradd, St Paul's Bangor. Y bêl yn taro'r ffens gwifren, ac wrth i mi blygu lawr i nôl y bêl, dyma fy llygad dde yn cael ei dal yn y gwifren metal.
O'n i'n hollol styc, methu symud, nes bod athro yn dadgysylltu fi oddi wrth y ffens. Wedyn cael fy rysho i Ysbyty C&A i gal pigiad Tetanus yn fy nhin!
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Olivia Newton John. Weles i Grease dros hanner dwsin o weithie yn y City Cinema ym Mangor.

Cafodd Colin wersi ukelele i greu argraff ar Britney - nid Olivia!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Un noson, yn ystod taith genedlaethol o Under Milk Wood, dyma fi'n tynnu a rhwygo hamstring yng nghefn fy nghoes. Roedd e'n ofnadw' o boenus.
Bu rhaid i mi berfformio gweddill y noson a'r wythnos ganlynol o gadair ar ochr y llwyfan.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Dwi'n crïo yn ddyddiol wrth weld shambls Brexit yn agosáu.

O Archif Ateb y Galw:

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Gwin coch a siocled, yr un pryd.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Ynys Llanddwyn; ar ddiwrnod braf does unman yn y byd cystal.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Noson o dan y sêr yn Pioneertown, Califfornia.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Swnllyd. Sensitif. Stwbwrn.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Sideways.

Byddai Jonathan wrth ei fodd yn cael sgwrs am yr hen ddyddiau dros ddiod gyda The Edge a Bono
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Bono a The Edge. Dwi wedi bod yn ffan enfawr o U2 ers degawde a bydde'n grêt siarad 'da nhw am y dyddie cynnar.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Fy enw cynta' yw Richard, felly mewn gwironedd dwi'n Dickie.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Byta mynydd o donyts.
Beth yw dy hoff gân a pham?
Mae fy hoff gân yn newid yn wythnosol os nad yn ddyddiol. Heddiw: Mr Tillman gan Father John Misty, athrylith cerddorol.

Pwdin taffi... pwdin delfrydol Jonathan
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Wystrys ffres Languedoc efo gwydriad o Champagne. Hake wedi rhostio gyda kale, madarch ac artichoke Jerwsalem, a photel o Riesling wrth gwrs. Pwdin taffi efo llwyth o saws, hufen iâ a hufen. Basically bwydlen Fiskebar Copenhagen.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Taylor Goldsmith, o'r band Dawes. Bydde meddu ar y fath dalent cerddorol a bod yn aelod o fand roc mor cŵl yn gymaint o sbort.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Llŷr Evans