Diswyddiadau gorfodol yn 'anochel' medd arweinydd cyngor
- Cyhoeddwyd
Mae prif weithredwr cyngor sir yn rhybuddio bod posibilrwydd y bydd pwysau ariannol yn gorfodi'r awdurdod i ddiswyddo staff, gan gynnwys rhai mewn ysgolion.
Mewn adroddiad i gynghorwyr Castell-nedd Port Talbot, dywed Steven Phillips bod y cyngor eisoes wedi cynnig diswyddiadau gwirfoddol a chyfleoedd i ymddeol yn gynnar ymhob achos posib.
Mae'n rhybuddio hefyd bod rhaid ystyried toriadau pellach i wasanaethau wrth i'r cyngor fynd i'r afael â diffyg yn ei gyllideb.
Mae amcangyfrif y bydd yna ddiffyg sy'n fwy na 25% o gyllideb y cyngor erbyn 2022 os na fydd yr awdurdod yn gweithredu.
Dywed Mr Phillips fod deddfwriaeth y Cynulliad yn cynyddu'r pwysau ar awdurdodau lleol - gan gynnwys mewn meysydd fel gofal cymdeithasol a chynllunio - ond dyw'r cynghorau ddim yn cael arian ychwanegol.
Ac mae'n dweud fod rhai pobl yn rhoi pwysau "afrealistig" ar gynghorau i fuddsoddi mwy mewn gwasanaethau mewn cyfnod o gynni.
Costau ychwanegol
Dywed Mr Phillips y bydd angen dros £3m yn ychwanegol y flwyddyn nesaf i dalu bil cyflogau staff y cyngor - swm sydd yn codi i £4m o gynnwys cost ychwanegol pensiynau athrawon a'r cyflog byw.
Gan nad yw awdurdodau lleol yn cael yr un arian ychwanegol â'r GIG i godi cyflogau staff, mae'n dadlau, ni allai'r cyngor ymdopi â chost cynnydd o 3.5% yng nghyflogau athrawon a gyhoeddodd Llywodraeth y DU ym mis Gorffennaf, ac mae'n "anodd iawn gweld sut mae osgoi diswyddiadau gorfodol".
Dywedodd: "Yn syml, os na fydd y codiad yma'n cael ei ariannu'n gyflawn gan Lywodraeth Cymru, mae'n anochel y bydd yna ddiswyddiadau gorfodol yn ein hysgolion."
Ychwanegodd fod tua 200 o staff yn gadael yn wirfoddol bob blwyddyn dwy neu dair blynedd yn ôl, ond dim ond 11 wnaeth hynny y llynedd.
"Does neb yn gwrthwynebu hawl gweithwyr y sector cyhoeddus i dâl ac amodau teg... fodd bynnag, does dim dianc rhag y berthynas rhwng tâl a swyddi. Os mae'r cyntaf yn cynyddu, mae'r ail yn lleihau."
Ychwanegodd y bydd gwasanaethau'n cael eu torri neu'n dod i ben lle mae'r nifer sy'n eu defnyddio "yn parhau'n isel" a bod swyddogion ddim yn diystyru'r posibilrwydd" y gallai rhai ysgolion cynradd orfod cau ar sail cynaliadwyedd ariannol".