Achos cam-drin: Cwpl wedi 'tynnu lluniau noeth o blant'
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed bod cwpl o'r Barri sydd wedi'u cyhuddo o dreisio a cham-drin plant wedi tynnu a phrintio lluniau o ferched noeth.
Dywedodd un ferch ei bod wedi gweld albwm o luniau anweddus yn nhŷ Avril Griffiths, 61, a Peter Griffiths, 65.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod y ferch wedi cael ei cham-drin ar gwch yn Sianel Bryste, a hefyd yng nghefn fan.
Mae'r ddau yn gwadu cyhuddiadau o dreisio a cham-drin plant yn rhywiol yn yr 1980au a'r 1990au.
'Lluniau noeth'
Wrth amddiffyn fe ddywedodd y bargyfreithiwr David Etherington QC y byddai Avril a Peter Griffiths yn "gweithio fel ecstras mewn ffilmiau" a'u bod yn llogi eu fan, oedd wedi'i baentio'n ddu "i edrych fel un yr A-Team".
Ond dywedodd y ferch wrth y llys y byddai'r fan yn cael ei ddefnyddio i'w chludo hi i leoliadau ble roedd pobl yn cael rhyw, a'i bod hi'n cael ei threisio gyda drysau'r cerbyd ar agor.
Awgrymodd Mr Etherington wrthi nad oedd yr ymosodiadau yn y fan "wedi digwydd" mewn gwirionedd, ond fe ymatebodd hi: "Rydych chi'n anghywir."
Fe wnaeth hi adrodd ei honiadau wrth yr heddlu am y tro cyntaf yn 2000 a 2001, meddai, ar ôl clywed bod Peter Griffiths wedi ceisio cam-drin rhywun arall.
"Nes i sylwi y dylen i fod wedi gwneud hynny flynyddoedd yn ôl," meddai.
Dywedodd ei bod wedi darparu lluniau "noeth" ohoni hi i'r swyddogion heddlu oedd yn dangos breichiau'r diffynnydd o'i chwmpas.
Dywedodd ei bod wedi dweud wrth swyddogion fod albwm luniau yn ystafell fyw'r diffynnydd oedd gyda "llawer o luniau noeth o blant, pobl roeddwn i'n eu nabod, plant roeddwn i'n eu nabod".
Ychwanegodd ei bod wedi cael gwybod gan y swyddog oedd yn delio gyda hi y byddai'r achos yn cael ei "gadw ar y ffeil rhag ofn bod unrhyw ferched eraill eisiau dod yn eu blaenau".
Dwyn llun
Wrth gael ei chroesholi dywedodd y ferch wrth y llys am y noson y cafodd y lluniau anweddus ohoni eu cymryd - yr un noson i Peter Griffiths ei threisio mewn parti.
"Roeddwn i'n gwybod ble roedd pethau'n mynd, cyn gynted â'i fod yn cael y cyfle," meddai.
"Roeddwn i'n gwybod mai dyna sut oedd e'n digwydd, roedd e wedi digwydd o'r blaen, roedd yr arwyddion yna."
Dywedodd wrth y llys ei bod wedi cael ei gorfodi i yfed tri chwarter peint o fodca, cyn i Avril a Peter Griffiths dynnu lluniau noeth ohoni a'u cadw.
Dywedodd yr achwynydd ei bod wedi dwyn un o'r lluniau gafodd eu printio yn ddiweddarach, am ei bod hi'n teimlo "gwarth a chywilydd".
Awgrymodd Mr Etherington i'r ferch ei bod hi wedi cael rhyw gyda Peter Griffiths ond ei bod hi dros 16 ar y pryd, a bod y lluniau hefyd wedi'u tynnu pan oedd hi dros 16 oed.
Mewn ymateb dywedodd yr achwynydd: "Mae e'n gelwyddgi os yw e'n dweud hynny, celwyddgi budr, sut feiddiai e."
Ychwanegodd: "Mae'n gwybod beth wnaeth e, ac mae hi hefyd, dyna pam mae hi'n ei amddiffyn e."
Mae Avril Griffiths a Peter Griffiths yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn eu herbyn, ac mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2018