Helo, helo, helo... diolch am helpu'r heddlu gyda therm Cymraeg am 'county lines'

  • Cyhoeddwyd
Ffôn symudol tu ôl i wiren ffensFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae delwyr cyffuriau yn cysylltu gyda gwerthwyr o bell drwy ddefnyddio ffonau

Mae uned gyfieithu Heddlu Gogledd Cymru wedi bathu term Cymraeg newydd am waith yr heddlu diolch i ysbrydoliaeth gan wrandawyr Radio Cymru a darllenwyr dyfeisgar Cymru Fyw.

Cysylltodd Llifon Jones o'r uned â rhaglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru i ofyn am help gydag un ymadrodd wrth iddyn nhw fathu termau Cymraeg newydd yn ddiweddar, sef 'county lines'.

Tacteg ydy hon sy'n cael ei defnyddio gan ddelwyr cyffuriau i fanteisio ar bobl eraill, plant yn aml, i werthu cyffuriau mewn ardal neu sir y tu allan i'w hardal eu hunain gan ddefnyddio gwahanol linellau ffôn symudol i gysylltu â'u gwerthwyr, gan leihau'r tebygolrwydd o gael eu dal.

Wedi'r apêl ar raglen Aled Hughes cafwyd sawl cynnig gan wrandawyr Radio Cymru: "troseddu trawsffiniol", "llinellau llipryn", "llibart sir", "rhanbarth rheibio", "ffiniau bro", "cyffurffiniau", "ffiniau ffals".

A daeth darllenwyr Cymru Fyw i'r adwy gyda nifer o gynigion hefyd ar ôl inni ofyn am help.

Roedd rhain yn cynnwys "drwgweithredu o'r ymylon"; "troseddu llechwraidd"; "terfynau troseddu"; "llinellau lôn"; "ffôn dros ffin"; "gweision gwasgar"; "ffiniau ffonau"; "siroedd symudol" a "llinell cyffur", a ddaeth gan Mari Jones.

Mae Llifon Jones o'r uned gyfieithu wedi cysylltu i ddiolch i bawb a roddodd awgrym.

Felly beth oedd y canlyniad?

Gan mai disgrifio'r llinellau ffôn mae'r county lines yn hytrach na ffiniau sirol meddai Mr Jones, maen nhw wedi cymryd ysbrydoliaeth gan ddau gynnig ('cyffurffiniau' a 'llinell cyffur') ac wedi penderfynu ar ddau derm: 'llinellau cyffuriau' a 'cyffurlinellau'.

"Gobeithio y caiff y ddau derm ddefnydd a bydd rhwydd hynt i bawb ddefnyddio pa un bynnag sydd hawsaf iddynt," meddai Llifon Jones.

Maen nhw wedi bathu term Cymraeg am grooming hefyd, sef 'rhwydo' meddai.

Ond peidiwch â synnu os daw apêl iaith arall gan yr heddlu cyn hir - gyda natur trosedd a chyfraith a threfn yn newid yn barhaus mae'r angen i fathu termau newydd yn cadw unedau cyfieithu heddluoedd yn brysur.

Dyma rai o'r termau Cymraeg newydd eraill mae uned Heddlu'r Gogledd wedi eu bathu yn ddiweddar:

Drone: (Teclynnau di-beilot i dynnu lluniau o'r awyr) - 'gwas y glas' (yng nghyswllt yr Heddlu).

Cuckooing: (Sef delwyr cyffuriau sy'n byw yn nhai pobl fregus ac yn delio cyffuriau yno) - 'cogio'. "Mae cogio yn golygu hefyd smalio, sef beth maent yn ei wneud - smalio eu bod yn y tŷ," meddai Llifon Jones.

Dashcam: (Y camera sydd ar flaen cerbydau heddlu a rhai cerbydau arferol hefyd) - 'camera cerbyd'.

Body worn video: (Camera sy'n cael ei gario ar gorff llawer o heddweision ac sy'n gallu cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth llys o drosedd)- 'camera corff'.

Smart water: (A ddefnyddir gan yr adran fforensig i ganfod olion bysedd) - 'dŵr datgelu'.

Diolch i bawb wnaeth gysylltu!

Hefyd o ddiddordeb: