Buddugoliaeth gyfforddus i Gymru yn erbyn Liechtenstein

Sgoriodd Joe Rodon ei gôl gyntaf dros ei wlad nos Wener ac mae'r amddiffynnwr bellach wedi chwarae 53 o weithiau dros Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae dechrau di-guro Cymru dan reolaeth Craig Bellamy yn parhau wedi buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Liechtenstein nos Wener.
3 - 0 oedd y sgôr terfynol gyda Joe Rodon, Harry Wilson a Kieffer Moore yn sgorio'r goliau.
Sicrhaodd y fuddugoliaeth fod Cymru yn eistedd ar frig eu grŵp rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2026, wedi i gêm rhwng Gwlad Belg a Gogledd Macedonia orffen yn gyfartal ar yr un noson.
Dim ond enillwyr y grŵp fydd yn sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd, gyda'r tîm sy'n gorffen yn ail yn cael lle yn y gemau ail gyfle.
- Cyhoeddwyd28 Mai
- Cyhoeddwyd25 Mawrth
- Cyhoeddwyd22 Mawrth
Llwyddodd tîm Craig Bellamy i ennill pedwar pwynt o'u dwy gêm gyntaf yn y grŵp fis Mawrth, gyda gêm gyfartal yng Ngogledd Macedonia a buddugoliaeth yn erbyn Kazakhstan yng Nghaerdydd.
Roedd disgwyliadau yn uchel cyn y gic gyntaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener, gyda'r ymwelwyr yn safle 205 ar restr detholion FIFA - ar bapur, dim ond llond llaw o wledydd trwy'r byd sy'n waeth na Liechtenstein.
Cychwynnodd y gêm gyda Chymru yn rheoli ac yn cael nifer o gyfleoedd i sgorio, ond doedden nhw ddim yn arbennig o effeithiol yn y traean olaf.

Sgoriodd Harry Wilson gyda'i ben wedi 65 munud
Er gwaethaf y rhwystredigaeth gynnar, daeth y gôl gan Joe Rodon ar ôl 39 munud o chwarae, wrth iddo benio i gefn y rhwyd o gic gornel.
Yn yr ail hanner cynyddu wnaeth y pwysau ar Liechtenstein, wrth i Harry Wilson sgorio gyda'i ben wedi 65 munud.
Sgoriodd Kieffer Moore ar ôl 68 munud, a'r sgôr derfynol oedd 3-0 i Gymru.
Mi fydd Cymru yn teithio i Frwsel i herio Gwlad Belg nos Lun - y gêm anoddaf yn y grŵp i Gymru ar bapur.