Dedfrydu cyn-athro yng ngogledd Cymru am droseddau rhyw plant

Roedd Simon Clark, 46 oed, eisoes wedi pledio'n euog i gyhuddiadau rhyw
- Cyhoeddwyd
Mae dyn oedd yn arfer bod yn athro yn Sir y Fflint wedi'i ddedfrydu i wyth mlynedd o garchar.
Roedd Simon Clark, 46 oed, eisoes wedi pledio'n euog i 29 o gyhuddiadau rhyw yn erbyn plant.
Fe ymddangosodd Clark o Ellesmere Port, Sir Caer yn Llys y Goron Caer ddydd Gwener.
Wrth ddedfrydu'r cyn-athro yn Ysgol Alun, Yr Wyddgrug, dywedodd y Barnwr Simon Berkson fod ei droseddau "yr hunllef waethaf" i unrhyw riant.
Dywedodd fod ymddygiad troseddol Clark wedi'i gynllunio'n ofalus.
O ganlyniad, dywedodd fod Clark wedi "colli popeth" gan gynnwys ei swydd, ei briodas a mynediad heb oruchwyliaeth at ei blant ifanc ei hun.
Bydd yn wynebu pedair blynedd ar drwydded ar ddiwedd ei ddedfryd.
Pledio'n euog i 29 cyhuddiad
Fis Mawrth 2025 fe blediodd Clark yn euog i 29 cyhuddiad gan gynnwys:
• Annog plentyn dan 13 oed i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol treiddiol (penetrative)
• Dau gyhuddiad o annog plentyn dan 13 oed i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol nad yw'n dreiddiol
• Dau gyhuddiad o annog plentyn dan 16 oed i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol nad yw'n dreiddiol
• 21 cyhuddiad o gyfathrebu'n rhywiol â phlentyn dan 16 oed
• Creu 26 o ddelweddau anweddus Categori A o blant
• Creu 29 o ddelweddau anweddus Categori B o blant
• Creu 81 o ddelweddau anweddus Categori C o blant.
Fe ddechreuodd yr achos yn erbyn Clark ym mis Ionawr 2023, pan gysylltodd rhiant â Heddlu Gogledd Cymru yn pryderu, gan nodi fod eu merch yn ei harddegau yn derbyn negeseuon gan ddyn anhysbys yn gofyn am luniau ohoni yn noeth.
Roedd ymholiadau cychwynnol yn awgrymu fod yr unigolyn oedd yn cael ei amau o wneud hyn yn byw yn ardal Sir Caer ac fe gafodd yr achos ei drosglwyddo i Heddlu Sir Caer.
Dechreuodd dditectifs ymchwilio ymhellach ac yn ystod eu hymholiadau daeth i'r amlwg mai Clark, a oedd yn gweithio fel athro, oedd yr un oedd yn cael ei amau.
Aeth swyddogion i'w gartref fis Mai 2023 ac fe gafodd nifer o ddyfeisiau eu cymryd o'r eiddo.
Wedi esgus bod yn berson ifanc
Fe wnaeth swyddogion ddarganfod fod Clark wedi esgus bod yn berson ifanc yn ei arddegau gan ddefnyddio cyfrif Snapchat dan enw gwahanol.
Fe wnaeth ditectifs adfer cannoedd o negeseuon at ferched, gyda nifer ohonyn nhw at unigolion o dan 16 oed
Roedd llawer o'r negeseuon o natur rywiol, gyda Clark yn gofyn yn rheolaidd i'r merched rannu delweddau anweddus ohonyn nhw eu hunain.
Fe wnaeth swyddogion hefyd adfer dros 100 o ddelweddau anweddus categori A, B a C o blant o ddyfeisiau Clark.
Fe wnaeth Heddlu Sir Caer ganmol dewrder y dioddefwyr yn yr achos, gan ddweud fod Clark, er gwaethaf bod mewn sefyllfa o ymddiriedaeth, "yn parhau â'i droseddau i fodloni ei awydd rhywiol gwyrdroëdig ei hun".