Oedi pellach o flwyddyn cyn ailagor Neuadd Pantycelyn

  • Cyhoeddwyd
Cynllun llawr gwaelod PantycelynFfynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth/Penseiri Lawray
Disgrifiad o’r llun,

Cynllun o lawr gwaelod Pantycelyn, sy'n dangos gofodau cymdeithasol, ffreutur a swyddfeydd newydd ar gyfer UMCA

Ni fydd neuadd breswyl Pantycelyn ym Mhrifysgol Aberystwyth yn agor tan fis Medi 2020, er mai ei hagor erbyn Medi 2019 oedd y bwriad.

Yn ôl y brifysgol, mae'r "heriau o ailddatblygu'r adeilad rhestredig Gradd 2" wedi golygu na fydd modd cwblhau'r gwaith adnewyddu mewn pryd.

Bydd 200 o ystafelloedd en-suite yn rhan o'r neuadd newydd, ynghyd â swyddfeydd ar gyfer Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), ffreutur a gofodau cymdeithasol.

Mae cadeirydd Bwrdd Prosiect Pantycelyn a Llywydd UMCA wedi datgan ei fod yn "siom" na fydd y neuadd ar agor erbyn Medi 2019.

Heriau ailddatblygu

Cafodd y neuadd breswyl, sydd wedi bod yn gartref i nifer o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg dros y blynyddoedd, ei chau yn 2015 er mwyn ei hadnewyddu.

Cytunodd cyngor Prifysgol Aberystwyth ar gynllun gwerth £12m - gyda £5m o'r arian hwnnw yn dod o Lywodraeth Cymru - ar gyfer myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg, gyda'r bwriad o ailagor y neuadd i fyfyrwyr erbyn Medi 2019.

Fodd bynnag, datgelodd y brifysgol bod "yr heriau o ailddatblygu'r adeilad rhestredig Gradd 2 hwn yn golygu na fydd modd cyflawni'r nod gwreiddiol o ailagor yr adeilad" erbyn y dyddiad hwnnw.

Pwysleisia'r brifysgol bod yr oedi o flwyddyn yn angenrheidiol ar gyfer sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud "gyda gofal, i safon uchel ac o fewn y gyllideb".

Ar hyn o bryd, mae llety dynodedig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith mewn rhan o neuadd Penbryn, sef Penbryn-Pantycelyn, ac yn Fferm Penglais.

Siom wirioneddol

Dywedodd Gwerfyl Pierce Jones, Cadeirydd Bwrdd Prosiect Pantycelyn, bod y newydd yn "siom wirioneddol".

"Serch hynny, mae'r Bwrdd yn derbyn bod y Brifysgol yn gwbl ymrwymedig i ailagor Pantycelyn ac mae'r cyllid angenrheidiol yn ei le," meddai.

Ychwanegodd bod y Bwrdd hefyd wedi derbyn "addewid personol" yr Is-ganghellor y bydd Pantycelyn ar ei newydd wedd yn barod erbyn Medi 2020, ac "y bydd y gwaith adnewyddu o'r safon orau".

Yn ogystal, mae Llywydd UMCA, Anna Wyn Jones, hefyd wedi datgan fod y newyddion "yn siom enfawr" i'r undeb.

Er hynny, dywedodd ar ran yr undeb ei bod "am bwysleisio bod y neuadd yn mynd i ailagor ar ei newydd wedd ac yn y cyfamser, mae bwrlwm bywyd Cymraeg Aber yn parhau".

"Fe fyddwn ni fel undeb yn gweithio i'r eithaf gyda'r Bwrdd Prosiect a'r Brifysgol i sicrhau fod hyn yn digwydd."

'Torri addewid'

Mae llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith wedi datgan bod y "brifysgol yn peryglu ei henw da a'i statws drwy dorri ei haddewid i ailagor y neuadd" a bod yr oedi yn "ergyd pellach i allu'r brifysgol i ddenu myfyrwyr".

Dywedodd Jeff Smith: "Mae'n hollbwysig i'r Brifysgol fuddsoddi ym Mhantycelyn yn syth, gan ei hailagor erbyn Medi 2019, er mwyn iddi gynnal diwylliant hyfyw Cymraeg unwaith eto.

"Rydym felly yn mynnu i'r Brifysgol gyflymu'r gwaith ac i ailagor y neuadd i fyfyrwyr yn 2019."