Cytuno ar gynllun £12m i ailddatblygu Neuadd Pantycelyn

  • Cyhoeddwyd
Cynllun llawr gwaelod PantycelynFfynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth/Penseiri Lawray
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gan y neuadd newydd 200 ystafell wely, fydd i'w cael dros dri llawr

Mae cyngor Prifysgol Aberystwyth wedi cytuno ar gynllun £12m i ailagor neuadd breswyl Pantycelyn.

Fe fydd y neuadd ar ei newydd wedd yn cynnwys 200 o ystafelloedd gwely en-suite a llefydd i gymdeithasu.

Cafodd yr hen neuadd - fu'n darparu llety i fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg - ei chau yn 2015 er gwaethaf gwrthwynebiad rhai myfyrwyr.

Dywedodd llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) ddydd Llun ei fod yn "falch iawn" o'r buddsoddiad newydd.

Ailagor yn 2019

Mae'r pecyn arian yn cynnwys £5m sydd wedi cael ei glustnodi o raglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.

Cafodd y cynlluniau ar gyfer y neuadd newydd eu cyflwyno yn gynharach eleni a'r bwriad yw agor y neuadd ym Medi 2019.

Yn ôl llywydd UMCA, Gwion Llwyd, mae'r undeb wedi bod "yn galw am fuddsoddiad er mwyn adnewyddu Pantycelyn" a'u bod yn "falch iawn o'r penderfyniad a wnaed gan y Cyngor".

"Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r Brifysgol i sicrhau cyfleusterau o'r radd flaenaf ym Mhantycelyn ac i ddatblygu ymhellach y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr Aber," meddai.

Yn ôl Gwerfyl Pierce Jones, dirprwy ganghellor y brifysgol a chadeirydd y bwrdd sy'n gyfrifol am yr ailddatblygu, mae'r cyhoeddiad "o'r pwys mwyaf" a bydd "adeiladwyr ar y safle yn y dyfodol agos".

Ychwanegodd: "Bydd y Bwrdd Prosiect yn parhau i oruchwylio'r camau nesaf ar ran y Brifysgol a byddwn yn gwneud popeth posibl i sicrhau fod Pantycelyn yn ailagor yn unol â'r amserlen ac y bydd y gwaith gorffenedig o'r safon orau."

Dywedodd Canghellor Prifysgol Aberystwyth, Syr Emyr Jones Parry, bod y penderfyniad "yn adlewyrchu ymrwymiad y Brifysgol i'r iaith a'r diwylliant Cymraeg".