Teyrnged teulu i fachgen ysgol 14 oed
- Cyhoeddwyd
Mae teulu wedi rhoi teyrnged i fachgen ysgol 14 oed a fu farw yn yr ysbyty ar ôl i'r gwasanethau brys gael eu galw i Ysgol Uwchradd Gatholig St John Lloyd yn Llanelli ddydd Mercher.
Dywedodd tad Bradley John, Byron John o ardal Rhydaman, ei fod yn amhosib disgrifio eu colled.
"Roedd e' yn unigolyn mor garismataidd, bendigedig ac roeddwn yn ei garu gymaint.
"Yn farchogwr brwd a thalentog roedd yn un o sylfaenwyr helfa leol sy'n cwrso arogl dynol yn hytrach na chadno.
"Bradley oedd canol ein byd.
"Hoffwn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ar yr amser ofnadwy yma. Mae'n golygu gymaint i'r teulu."
Dywedodd teulu Bradley John fod y bachgen wedi cael ei fwlio yn ystod ei gyfnod yn yr ysgol.
Mae Ysgol Gatholig St John Lloyd o dan ofal Esgobaeth Mynyw a Chyngor Sir Caerfyrddin.
Dyw'r naill gorff wedi ymateb i'r honiadau o fwlio.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn cydweithio gydag asiantaethau eraill wrth geisio darganfod amgylchiadau ei farwolaeth.
"Rydym yn ymchwilio i farwolaeth drasig bachgen 14 oed Bradley Dylan John ar ran Swyddfa'r Crwner".
Cafodd yr heddlu eu galw i'r ysgol gyfun, sy'n darparu ar gyfer disgyblion 11-16, tua 12:00 i helpu'r ysgol a pharafeddygon oherwydd pryder am les y bachgen.
"Yn drist iawn, bu farw yn yr ysbyty. Dyw'r digwyddiad ddim yn cael ei drin fel un amheus," meddai llefarydd.
Cefnogaeth swyddogion arbennig
Bydd swyddogion arbennig yr heddlu yn cynorthwyo'r teulu, a staff a disgyblion yr ysgol.
Dywedodd yr arolygydd Chris Neve: "Mae marwolaeth Bradley wedi ysgwyd y gymuned leol ac ar ran Heddlu Dyfed-Powys rwy'n estyn ein cydymdeimlad dwys i'r teulu.
"Rydym yn ymchwilio i bob awgrym posib ei geisio cael darlun clir o'r hyn ddigwyddodd."
Dywedodd llefarydd ar ran Esgobaeth Mynwy: "Mae ein meddyliau a'n gweddïau gyda theulu'r disgybl a chymuned yr ysgol yn yr amser anodd yma."
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin hefyd wedi cynnig cymorth a chydymdeimlad i'r ysgol a'r teulu.
Dywedodd Glynog Davies, aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfryddin: "Dymunwn estyn ein cydymdeimladau dwys i'r teulu, cyfeillion a phawb yn Ysgol John Lloyd ar yr amser trist ac anodd hwn.
"Rydym yn cefnogi'r ysgol ym mhob ffordd posib ac yn sicrhau fod cwnselwyr a phobl broffesiynol eraill wrth law i gefnogi staff a disgyblion."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Medi 2018