'Angen mwy o sganiau PET i gleifion y gogledd'
- Cyhoeddwyd
Mae corff sy'n diogelu buddiannau cleifion yn galw ar i drigolion gogledd Cymru gael gwell mynediad i sganiau meddygol mwy arbenigol.
Mae sganiau Tomograffeg Gollwng Positronau (sganiau PET) yn cynhyrchu delweddau 3D o du fewn i'r corff.
Ar hyn o bryd dim ond dau ddiwrnod yr wythnos y mae sganiau PET ar gael yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru yn dweud bod gan bobl mewn ardaloedd eraill o Gymru well mynediad i sganiau PET.
Yng Nghaerdydd mae'r ganolfan sganiau ar agor am bum niwrnod yr wythnos.
Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod yn cwrdd â gofynion y canllawiau sydd wedi cael eu gosod i Gymru gyfan.
'Profiad ofnadwy'
Yn ddiweddar mae Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru wedi bod yn delio ag achos dynes o Lanbedrog ger Pwllheli na chafodd sgan PET gan y bwrdd iechyd er i'w meddyg orchymyn hynny er mwyn gweld a oedd canser wedi dychwelyd.
Cafodd Nicola Pinhorn ei thrin am ganser y coluddyn yn 2015 a dywedwyd wrthi ei bod bellach yn glir o'r afiechyd.
Ond eleni fe sylwodd ei hymgynghorydd ar glwstwr annormal o gelloedd ac fe orchmynnodd sgan PET ond fe wrthododd y bwrdd iechyd y cais.
Dywed Nicola Pinhorn nad yw hi wedi cael gwybod pam bod y cais wedi cael ei wrthod.
Ychwanegodd: "Dwi'n gwybod bod gen i diwmor o ryw fath ond dwim yn gwybod ai canser ydy o.
"Allai'm dweud pa mor ofnadwy yw'r profiad. Dwi ddim yn cysgu - unwaith da'ch chi'n cael canser mae wastad siawns ei fod yn dod 'nôl.
"Y peth gwaethaf ydy peidio gwybod."
Yn gynharach eleni cafodd Shaun Redmond o Gaergybi brofiad tebyg ond fe dalodd am sgan PET ddangosodd bod ei ganser wedi lledu.
Dywed Geoff Ryall Harvey, Prif Swyddog Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru, bod yn rhaid i'r Gwasanaeth Iechyd adolygu sut mae cleifion yn cael eu hasesu a sicrhau gwell mynediad i sganiau arbenigol.
"Dim ond dau ddiwrnod yr wythnos mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cynnig sganiau PET - a dyw dau ddiwrnod ddim yn ddigon. Fydden ni'n hoffi gweld mwy o'r sganiau yma yn cael eu cynnig yng ngogledd Cymru."
'Ateb y galw'
Dywedodd lleafrydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Oherwydd cyfrinachedd y claf ni allwn roi gwybodaeth am driniaeth Nicola Pinhorn.
"Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru sy'n comisiynu sganiau PET ar ran Byrddau Iechyd Cymru ac y mae hynny wedi'i selio yn ôl y galw.
"Mae sganiau PET yng ngogledd Cymru yn cael eu darparu gan un o ddau sganiwr sydd ar gael i gleifion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd28 Medi 2017