Sut i oroesi’r flwyddyn gyntaf yn y brifysgol
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n gyfnod Wythnos y Glas unwaith eto, gyda miloedd o fyfyrwyr yn heidio i'r brifysgol ar gyfer eu hantur fawr nesa'.
Ond mae hyd yn oed y myfyrwyr clyfraf angen gair o gyngor weithiau.
Graddiodd Lliwen Jones mewn Cymraeg Proffesiynol o Brifysgol Aberystwyth ac mae hi bellach yn gyfieithydd gyda Chyngor Sir Ceredigion. Dyma ei thop-tips ar sut i oroesi eich blwyddyn gyntaf yn y brifysgol.
Yn gyntaf oll, llongyfarchiadau i chi ar lwyddo i sicrhau eich lle yn y brifysgol. Mae hon yn bennod newydd a chyffrous yn eich bywyd, ac rwy'n siŵr bod nifer ohonoch chi methu aros i seshio drwy Wythnos y Glas.
Ond efallai eich bod chi'n teimlo'n eithaf pryderus am hedfan y nyth, felly dyma ychydig o ganllawiau ar sut i oroesi'r flwyddyn gyntaf yn y brifysgol gan gyn-fyfyriwr hen a doeth (ish).
Peidiwch â phacio gormod
Er bod symud i rywle newydd yn gyffrous, does dim angen pacio pob un peth rydych chi'n berchen arno (oes wir angen 19 pâr o 'sgidie?). Fel arfer, does dim llawer o le i storio pethau yn eich llety, felly mae'n bwysig dim ond pacio'r hyn sydd wir ei angen arnoch chi.
'Dech chi ddim yn symud i blaned arall, mi fydd 'na siopau os oes angen unrhyw beth arall arnoch chi.
Ac er ei bod hi'n bwysig gwneud eich ystafell newydd yn gartrefol, does dim angen prynu holl gynnyrch Ikea a B&M i gyflawni hynny - byddwch chi'n difaru prynu hors ddillad a rac 'sgidie pan fydd rhaid i chi symud allan a cheisio stwffio popeth yng nghefn car.
Peidiwch â bod ofn cymdeithasu
Yr un peth dwi'n difaru am fy nghyfnod i yn y brifysgol ydi bod yn rhy swil ar ddechrau'r flwyddyn gyntaf a phoeni gormod am beth oedd pobl yn meddwl ohona' i. Y gwirionedd ydi, mae pawb yn yr un cwch â chi ac mae pawb yno i wneud ffrindiau, felly peidiwch â chuddio yn eich llofft.
Mae cynnig gwneud paned i rywun wastad yn icebreaker reit dda, ac yn gyfle i chi ddod i 'nabod y bobl 'dech chi'n byw efo nhw'n well.
Ymunwch â chlwb neu gymdeithas
Fedra i ddim pwysleisio hyn digon; mae ymuno â chlwb neu gymdeithas wir yn cyfoethogi eich profiad yn y brifysgol. Mae Ffair y Glas yn gyfle perffaith i chi gael gwybod yn union beth sydd gan y brifysgol i'w gynnig; o glybiau chwaraeon, i gelfyddydau, a hobïau eraill (mae hyd yn oed ffasiwn beth â chymdeithas Beer Pong a Quidditch mewn rhai prifysgolion).
Mae ymuno â chymdeithas yn gyfle gwych i chi gario 'mlaen i wneud rhywbeth rydych chi'n mwynhau ei wneud eisoes neu roi cynnig ar rywbeth hollol newydd, ac yn ffordd wych o gwrdd â nifer o bobl sy'n rhannu'r un diddordebau ac angerdd â chi.
Yn aml, mae cymdeithasau'n trefnu noson gymdeithasol bob wythnos, yn cystadlu'n genedlaethol ac yn trefnu tripiau dramor, felly bachwch ar bob cyfle oherwydd dwi'n gaddo mai dyma fydd rhai o'r atgofion gorau y gwnewch chi dros y tair blynedd.
Does dim cywilydd mewn hiraeth
Mae treulio wythnosau, os nad misoedd, heb weld eich teulu'n gallu bod yn heriol, a does dim cywilydd cyfaddef eich bod yn hiraethu am adref.
Mae Skype yn ffordd wych o gyfathrebu gyda phobl dros bellter, felly beth am i chi drefnu eich bod yn cael galwad Skype gyda'ch teulu ar noson ac amser penodol bob wythnos? Fel y dywedodd E.T: 'phone home'.
Ewch i'ch darlithoedd
*Spoiler alert* Mi ydych chi'n mynd i orfod gwneud rhywfaint o waith ('dech chi yna i gael gradd wedi'r cwbl). Er dwi'n siŵr y bydd nifer o bobl yn dweud wrthoch chi mai "dim ond 40% sydd angen arnat ti i basio" neu "dydi'r flwyddyn gyntaf ddim yn cyfri", peidiwch â chredu nad ydi ymdrechu'n bwysig.
Yn aml, mae gwaith y flwyddyn gyntaf yn sail i'r gwaith yn y blynyddoedd i ddod, felly peidiwch â mynd i'r habit o fethu darlithoedd a bod ar ei hôl hi o ran gwaith.
A sicrhewch eich bod yn 'sgwennu nodiadau manwl - mae pob myfyriwr ar un adeg wedi meddwl " 'sdim pwynt i fi 'sgwennu hynna, dwi'n siŵr o gofio hynna" - credwch chi fi, wnewch chi ddim cofio, a byddwch chi'n difaru pan 'dech chi'n stryglo i adolygu cyn eich arholiadau oherwydd diffyg nodiadau.
Peidiwch â gadael eich gwaith tan y funud olaf!
Dim ond unwaith erioed nes i aros fyny drwy'r nos i orffen traethawd, a wnes i addo i'm hunan 'swn i ddim yn rhoi fy hun trwy'r fath straen eto (dwi'n eitha siŵr o'n i'n crio dagrau o de erbyn y diwedd oherwydd yr holl baneidiau nes i yfed i aros yn effro).
Trefnwch a chynlluniwch eich gwaith, a cheisiwch ei gwblhau erbyn y diwrnod cyn y dyddiad cyflwyno.
Dysgwch sut i goginio
Mae peidio byw adre a pheidio cael rhywun i goginio prydau i chi bob dydd yn dipyn o sioc i'r system, ond mi wnewch chi ddiflasu ar pot noodles, bîns ar dost a thecawês yn fuan iawn.
Mae'n siŵr y cewch chi ambell i ddisaster i ddechrau (nes i lwyddo i losgi sosban y tro cynta' nes i drio coginio rhywbeth from scratch) ond byddwch yn meithrin sgil fydd yn ddefnyddiol iawn i chi am weddill eich bywyd.
Golchwch eich llestri
Sori i swnio fel eich mam, ond does dim byd gwaeth na cherdded i mewn i'r gegin a gweld bod mynydd o lestri sy'n cynyddu mewn maint bob dydd efo pob math o organebau a llwydni'n tyfu arnyn nhw.
Wneith golchi'ch llestri ddim cymryd mwy na 10 munud, a byddwch chi'n berson mwy poblogaidd yn eich fflat o ganlyniad.
Mwynhewch!
Mae eich blwyddyn gyntaf yn gyfnod o ddod i'r arfer â byw'n annibynnol mewn amgylchedd gwbl newydd ond peidiwch â phryderu gormod. Dyma'ch cyfle i wneud camgymeriadau, i wneud atgofion, ac i wneud ffrindiau oes!
Hefyd o ddiddordeb: