Drama i godi ymwybyddiaeth am gam-fanteisio rhywiol

  • Cyhoeddwyd
Arad GochFfynhonnell y llun, ARAD GOCH
Disgrifiad o’r llun,

Bydd drama Hudo yn teithio o amgylch ysgolion uwchradd Ceredigion a Sir Gâr

Mae cwmni theatr yn Aberystwyth ar fin mynd ar daith i godi ymwybyddiaeth pobl ifanc o'u hawliau ac atal achosion posib o gam-fanteisio rhywiol.

Bydd cynhyrchiad newydd gan Gwmni Theatr Arad Goch o'r enw Hudo yn teithio o amgylch ysgolion uwchradd Ceredigion a Sir Gâr dros fis Hydref a Thachwedd.

Daw'r cynhyrchiad yn sgil cynnydd mewn achosion o gam-fanteisio rhywiol yng ngorllewin Cymru.

Dywedodd cyfarwyddwr Hudo, Carwyn Blainey, y byddai'n falch os yw'r cynhyrchiad yn "rhoi hyder i rywun siarad neu arbed rhywun rhag mynd lawr trywydd sy'n anodd ei weld" yn sgil cam-fanteisio rhywiol.

Trafod a chyfrannu syniadau

Mae pum golygfa i'r cynhyrchiad - pob un yn cyflwyno enghraifft sy'n ymwneud â cham-fanteisio rhywiol.

Ffurf fforwm sydd i'r cynhyrchiad, fydd yn galluogi disgyblion i ystyried penderfyniadau'r cymeriadau, gan drafod a chyfrannu syniadau sut gallan nhw fod yn fwy diogel.

Disgrifiad o’r llun,

Carwyn Blainey yw cyfarwyddwr y ddrama Hudo

Bydd modd wedyn i'r disgyblion ddysgu ac adlewyrchu ar sut y gallan nhw gadw eu hunain yn ddiogel ac osgoi cael eu hunain i mewn i sefyllfaoedd tebyg.

'Problemau pobl ifanc'

Yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys, Dafydd Llewelyn, mae achosion o gam-fanteisio rhywiol yn bodoli mewn ardaloedd gwledig yn ogystal ag ardaloedd dinesig.

"Nid problem ddinesig yn unig fohoni: mae cam-fanteisio rhywiol hefyd yn bodoli mewn ardaloedd gweledig fel Dyfed Powys," meddai,

"Mewn ardaloedd gwledig mae problemau sydd yn ymwneud ag unigrwydd a bod yn ynysig yn gallu effeithio'n fawr ar bobl ifanc.

"Yn aml nid oes ganddynt rwydwaith o gysylltiadau agos, ac mae apêl y cyfryngau digidol, a'r mynediad rhwydd iddynt, yn creu argyfyngau a phroblemau newydd i bobl ifanc."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dafydd Llewelyn mae achosion o gam-fanteisio rhywiol yn bodoli mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd trefol

Yn dilyn y perfformiadau yng ngorllewin Cymru, maen bosib y bydd y cynhyrchiad wedyn yn ymweld ag ysgolion ledled Cymru.

Ychwanegodd Mr Blainey: "Os yw hwn fel cynhyrchiad yn annog unrhyw un sy'n gweld sefyllfa'n datblygu fel y cymeriadau ac yn rhoi hyder iddyn nhw siarad efo rhywun, mi fase hynny yn grêt."