Car wedi taro dyn ger Garndolbenmaen yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd yr A487
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud bod dyn wedi dioddef anafiadau sy'n peryglu ei fywyd ar ôl cael ei daro gan gar yng Ngwynedd.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw am 21:40 nos Lun i Garndolbenmaen ger Porthmadog i adroddiadau bod car Mini Cooper wedi bod mewn gwrthdrawiad â pherson ar ffordd yr A487.
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Gwynedd cyn cael ei drosglwyddo i ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol.
Dywedodd Meurig Jones o uned plismona ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn "awyddus i siarad gydag unrhyw un welodd fws wedi stopio a pherson yn croesi'r ffordd y tu allan i fwyty Indiaid Madiha".
Roedd y ffordd ar gau am sawl awr wedi'r digwyddiad, cyn cael ei hailagor yn oriau mân fore Mawrth.
Mae'r llu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio 101.