Mab y gweinidog Mark Drakeford yn euog o dreisio

  • Cyhoeddwyd
Llys y Goron Caerdydd

Mae dyn 31 oed o Gaerdydd wedi ei gael yn euog o dreisio yn Llys y Goron Caerdydd.

Mae Jonathan James Drakeford yn fab i'r gweinidog yn Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford, sy'n geffyl blaen yn y ras i fod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru.

Dywedodd Mark Drakeford bod ei deulu wedi bod drwy "gyfnod anodd" a bod eu meddyliau "gyda phawb sydd ynghlwm â'r achos, yn enwedig y dioddefwr".

Mae disgwyl i Jonathan Drakeford gael ei ddedfrydu'n ddiweddarach yn yr wythnos.