Corbyn yn cwestiynu Carwyn Jones am ei safbwynt Brexit
- Cyhoeddwyd
Mae Jeremy Corbyn wedi cwestiynu galwad Carwyn Jones i'r blaid Lafur benderfynu ar ei pholisi Brexit erbyn mis Tachwedd.
Dywedodd arweinydd y blaid Lafur wrth BBC Cymru nad oedd yn "hollol siŵr" pam fod y Prif Weinidog wedi penderfynu ar y mis hwnnw.
Mae Jeremy Corbyn wedi dweud y bydd ei blaid yn pleidleisio yn erbyn "cytundeb gwael" ar Brexit.
Yn ôl yr ymgeiswyr sydd yn y ras i arwain Llafur Cymru, mae angen refferendwm arall ar gytundeb terfynol Brexit.
Mae Carwyn Jones yn credu bod angen i'r blaid Lafur gytuno ar ei pholisi terfynol i adael yr Undeb Ewropeaidd erbyn mis Tachwedd fan bellaf.
'Dal y llywodraeth i gyfrif'
Wrth ymateb, dywedodd Jeremy Corbyn: "Dydw i ddim yn hollol siŵr pam ei fod wedi penderfynu ar fis Tachwedd, ond beth fyddwn i'n ddweud ydi ein bod ni wedi gosod ein chwe prawf.
"Fe fyddwn yn pleidleisio yn y Senedd yn unol â hynny ar y chwe prawf gan ddal y llywodraeth i gyfrif. Y llywodraeth sydd fod yn gwneud y trafod ond maen nhw'n wynebu'r ddwy ffordd.
"Dadreolaeth gyda Donald Trump neu ryw fath o gytundeb hanner ffordd gyda'r Undeb Ewropeaidd? Rydym ni eisiau rhywbeth sy'n llawer mwy cynhwysfawr a difrifol.
Ychwanegodd: "Does dim refferendwm yn cael ei gynnig, dim cwestiynau yn cael eu gofyn. Y trafodaethau sydd dan sylw".
'Cytundeb ar y bwrdd'
Yn ystod y gynhadledd yn Lerpwl, dywedodd Carwyn Jones fod y blaid yn wynebu "sefyllfa allai newid yn rhwydd."
Dyweodd wrth raglen BBC Politics Wales: "Dwi'n credu bod angen i ni gael safbwynt ddiffiniedig erbyn mis Hydref neu Dachwedd.
Pam? Oherwydd dyma'r amser ble allai fod na gytundeb ar y bwrdd neu ddim.
"Dwi'n credu ei fod yn amser hanfodol.
"Ond mae hi'n anochel, wrth i'r sefyllfa newid, fe fydd pobl yn dechrau edrych ar beth fydd y ffordd orau o fynd o'i chwmpas hi," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Medi 2018
- Cyhoeddwyd20 Medi 2018