Corbyn: Angen amrywiaeth yn ras arweinydd Llafur Cymru

  • Cyhoeddwyd
Jeremy Corbyn

Mae Jeremy Corbyn wedi galw am yr "amrywiaeth mwyaf eang posib" yn y ras i arwain Llafur Cymru.

Daeth sylwadau arweinydd y blaid Lafur wrth ymateb i bryderon nad oes dynes yn yr ornest i olynu Carwyn Jones ar hyn o bryd.

Yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford a'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething ydy'r unig ddau sydd wedi sicrhau digon o enwebiadau hyd yma.

Mae Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan angen cefnogaeth un Aelod Cynulliad arall cyn bod modd iddi gael ei henw ar y papur pleidleisio.

Mae ACau angen cefnogaeth pum aelod i fod yn ymgeiswyr am arweinyddiaeth Llafur Cymru.

'Uno'r blaid'

Dywedodd Mr Corbyn: "Yn amlwg mi fyddwn ni eisiau gweld yr amrywiaeth mwyaf eang posib o ran y dewis sydd yn cael ei roi ger bron aelodau'r blaid Lafur yng Nghymru.

"Ond ar ddiwedd y broses, fe fyddwn yn gallu ethol arweinydd newydd ac fe fydd y blaid yn dod at ei gilydd y tu ôl i'r arweinydd er mwyn darparu ar gyfer pobl Cymru."

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud na fydd yn rhoi ei gefnogaeth i unrhyw ymgeisydd.

Mae sawl gwleidydd o'r blaid wedi dweud y dylai fod dynes ar y papur pleidleisio.

Mr Drakeford ydy'r ceffyl blaen yn y ras ar hyn o bryd ar ȏl sicrhau cefnogaeth y mwyafrif o Aelodau Cynulliad Llafur.