Gwrthdrawiad angheuol ger pentref Abertridwr ym Mhowys

  • Cyhoeddwyd
HEddlu

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ger pentref Abertridwr, Powys fore Sul.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw ar ôl i gar Vauxhall Corsa lliw arian wrthdaro â choeden am tua 5:45 y bore ar ffordd yr B4396.

Bu farw'r dyn oedd yn gyrru'r car. Mae ei deulu a'r crwner yn ymwybodol o'r amgylchiadau.

Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw drwy ffonio 101.