Cyhoeddi £5.7m i annog pobl ifanc i astudio pynciau STEM
- Cyhoeddwyd
Bydd cyllid o £5.7m o'r Undeb Ewropeaidd yn cael ei glustnodi i annog pobl ifanc i astudio pynciau STEM - sef Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg - ar gyfer TGAU.
Cefnogi prosiect Trio Sci Cymru, sydd werth £8.3m ac yn cael ei arwain gan Academi Wyddoniaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru, fydd bwriad y cyllid ychwanegol.
Bydd y prosiect yn cynnwys cynnal llu o weithgareddau allgyrsiol, gan gynnwys arbrofion ymarferol, sioeau teithiol a digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth o yrfaoedd STEM.
Wrth gyhoeddi'r cyllid ddydd Llun, mae Mark Drakeford, yr ysgrifennydd cyllid, yn dweud bod gofyn am brosiect o'r fath i sicrhau "gweithlu medrus".
Bwriad prosiect Trio Sci Cymru yw cynyddu'r nifer sy'n astudio pynciau STEM a chodi graddau ymysg pobl ifanc y gorllewin, gogledd a chymoedd y de.
Bydd dros 5,600 o bobl ifanc rhwng 11 a 19 oed o 30 o ysgolion yn cael eu hannog, gyda'r gobaith o greu gweithlu ac economi'r dyfodol.
Ysgogi diddordeb
Yn ôl Mr Drakeford: "Mae technoleg yn newid yn gynt ac yn gynt, ac mae'n rhaid i Gymru gael gweithlu medrus i fanteisio ar y newidiadau hyn."
"Bydd y buddsoddiad hwn gan yr UE yn helpu ysgogi diddordeb yn y pynciau craidd hyn, gan annog disgyblion i ddewis y pynciau ac fe fydd hynny yn ei dro yn helpu economi Cymru i dyfu."
Ychwanegodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes bod pynciau STEM "yn hanfodol ar gyfer dyfodol technolegol, cymdeithasol ac economaidd Cymru".
Dywedodd Ms Morgan: "Bydd y buddsoddiad hwn yn annog ein pobl ifanc i ddilyn y pynciau hyn at lefel TGAU, gan eu helpu i adeiladu gyrfaoedd sy'n foddhaol ac yn cynnig cyflog da."
Bydd ffocws Trio Sci Cymru ar gynnal gweithgareddau allgyrsiol, gyda'r bwriad o rannu sgiliau a gwybodaeth i bobl ifanc am yr opsiynau sydd ar gael iddynt yn y sector gwaith STEM.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2016
- Cyhoeddwyd27 Awst 2017
- Cyhoeddwyd25 Medi 2015