Pâr priod o'r Barri yn euog o gam-drin plant yn rhywiol
- Cyhoeddwyd
Mae pâr priod o'r Barri wedi eu cael yn euog o nifer o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn plant.
Roedd Avril Griffiths, 61, a Peter Griffiths, 65, wedi gwadu cyfres o droseddau rhyw yn y 1980au a'r 90au yn erbyn merched oedd yn blant ar y pryd.
Dywedodd yr erlyniad eu bod wedi cam-drin plant yn eu cartref, ar gwch ac mewn fan, ac fe wnaeth un o'r achwynwyr wedi eu disgrifio yn y llys fel "Fred a Rose West" eu stad dai.
Bydd y ddau yn cael eu dedfrydu ar 18 Hydref, ar ôl i'r rheithgor benderfynu'n unfrydol eu bod yn euog o 22 allan o'r 24 o gyhuddiadau yn eu herbyn.
Dywedodd y barnwr wrth y diffynyddion eu bod yn wynebu "dedfryd sylweddol", ac y bydd yn ystyried dedfryd hyd at garchar am oes os fydd adroddiadau sy'n cael eu paratoi yn dangos eu bod yn droseddwyr peryglus.
Cafwyd Peter Griffiths yn euog o wyth cyhuddiad o dreisio, dau gyhuddiad o dynnu llun anweddus o blentyn a thri chyhuddiad o ymosod yn anweddus.
Cafwyd Avril Griffiths yn euog o bum cyhuddiad o dreisio, dau gyhuddiad o dynnu llun anweddus o blentyn a dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus.
Roedd y barnwr wedi rhoi gorchymyn i'r rheithgor gael y diffynyddion yn ddi-euog yn achos un cyhuddiad o dynnu llun anweddus o blentyn oherwydd diffyg tystiolaeth.
Roedd yr erlyniad wedi dweud wrth Lys y Goron Caerdydd fod y cwpl yn arfer cynnal partïon rhyw ar gwch.
Fe welodd y rheithgor recordiad o gyfweliad heddlu ble roedd un ferch yn dweud iddi gael ei gorfodi i yfed peint o fodca cyn cael ei threisio gan Peter Griffiths a dyn arall ar gwch y Môr Hafren tra bod eraill yn gwylio.
Dywedodd bod y ddau wedi bygwth ei "gadael hi yn y dŵr" pan wnaeth hi grïo. Honnodd hefyd bod swyddogion heddlu'n bresennol ar y pryd.
Roedd yr erlyniad yn dadlau bod y cwpl yn gweithio fel tîm gan "ecsbloetio pob un o'r merched er mwyn bodloni eu chwantau rhywiol".
Wrth roi tystiolaeth dywedodd Peter Griffiths fod y cyhuddiadau yn rhai ffug gan bobl oedd eisiau hawlio "iawndal".
Gwadodd awgrym ei fod wedi "pimpio" merched i'w ffrindiau, a defnyddio ei wraig fel "abwyd" i ddenu merched ifanc er mwyn eu hecsbloetio.
Yn ôl adroddiad gan seicolegydd fforensig, roedd sgôr IQ Ms Griffiths yn "ofnadwy o isel" a dylid ei hystyried fel unigolyn sydd ag "anabledd deallusol".
Dywedodd Wendy Brady o Wasanaeth Erlyn y Goron bod y cwpwl wedi "diystyru lles y plant roedden nhw'n eu cam-drin yn llwyr, gan eu trin fel gwrthrychau i ddiwallu eu chwantau rhywiol.
"Mae'r dioddefwyr wedi amlygu dewrder aruthrol trwy ddweud wrth y llys beth ddigwyddodd iddyn nhw. Rydym yn gobeithio y gallen nhw ddechrau symud ymlaen gan wybod bod Peter ac Avril Griffiths wedi bod o flaen eu gwell."