HSBC yn ymddiheuro am alw'r Gymraeg yn 'iaith dramor'

  • Cyhoeddwyd
Geraint Lovgreen
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Geraint Løvgreen ei fod yn cael "gwasanaeth da" gan HSBC fel arfer

Mae banc HSBC wedi ymddiheuro ar ôl gwrthod delio gydag ymholiad cwsmer oedd wedi anfon neges yn y Gymraeg.

Roedd y canwr Geraint Løvgreen wedi cysylltu gyda'r banc drwy'r gwasanaeth ar-lein yn ddiweddar i roi gwybod am newid cyfeiriad, gan gofyn i unrhyw ohebiaeth i fynd i'r cyfeiriad newydd.

Ond fe ddywedodd HSBC eu bod nhw ddim yn gallu darllen y neges am ei fod mewn "iaith dramor", gan ofyn i Mr Løvgreen anfon y neges eto yn Saesneg.

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cysylltu â'r banc i drafod y mater.

'Adlewyrchu'n wael iawn'

"Maen nhw'n cyfrif y Gymraeg fel iaith estron ac mae hynny'n fy ngwylltio fi," meddai Mr Løvgreen.

"Mae HSBC yn ymfalchïo mai nhw ydy'r banc lleol felly mae'n fater o hyfforddiant i staff."

Mewn llythyr i HSBC, dywedodd Mr Løvgreen ei bod hi'n "warthus" bod y Gymraeg yn cael ei galw'n "foreign language" ac yn "adlewyrchu'n wael iawn ar yr hyfforddiant yr ydych yn ei roi i'ch staff".

Mewn ymateb, fe ddywedodd llefarydd ar ran HSBC: "Rydym yn gweithio'n galed i roi gwasanaethau Cymraeg i'n cwsmeriaid ac yn gweithio'n agos gyda Chomisiynydd y Gymraeg.

"Yn anffodus, yn yr achos hwn ni chafodd y neges gan y cwsmer ei adnabod fel un Cymraeg ac o ganlyniad ni wnaeth ein tîm o siaradwyr Cymraeg ddelio gyda'r mater, ac rydym yn ymddiheuro am hynny."

Ychwanegodd y llefarydd y byddan nhw'n ceisio atal hyn rhag digwydd eto.

'Ffordd bell i fynd'

Dywedodd Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, ei bod wedi cynnal adolygiad yn 2015 o wasanaethau Cymraeg banciau yng Nghymru.

"Yn wahanol i sefydliadau sector cyhoeddus nid oes dyletswyddau cyfreithiol ar fanciau i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg.

"Un o argymhellion yr adolygiad oedd sefydlu fforwm ar gyfer uwch reolwyr banciau sy'n gweithredu yng Nghymru i rannu arferion da ac i drafod ffyrdd o gynyddu eu defnydd o'r iaith.

"Mae'r fforwm wedi arwain at nifer o gamau cadarnhaol gan rai banciau o ran cynyddu eu defnydd o'r Gymraeg. Mae gan eraill ffordd bell i fynd."

Ychwanegodd ei bod wedi cysylltu â HSBC ynghylch cwyn Mr Løvgreen yn gofyn am ymateb.