Ail-greu trychineb Aberfan ar gyfer drama The Crown

  • Cyhoeddwyd
AberfanFfynhonnell y llun, Mark Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae plant ac oedolion wedi eu gweld mewn gwisgoedd o'r 1960au

Mae un o'r digwyddiadau mwyaf trasig yn hanes Cymru ar hyn o bryd yn cael ei ail-greu ar gyfer cyfres deledu boblogaidd.

Mae The Crown ar Netflix yn dilyn hanes teyrnasiad Brenhines Elizabeth II o'r 1950au.

Bellach mae'r drydedd gyfres yn cael ei ffilmio, fydd yn cynnwys hanes trychineb Aberfan yn 1966.

Cafodd 144 o bobl eu lladd, gan gynnwys 116 o blant, pan lithrodd tomen lo i lawr mynydd a chladdu Ysgol Gynradd Pantglas a 18 o dai.

Ffynhonnell y llun, Mark Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gyfres â miloedd o ddilynwyr ar draws y byd

Bydd y gyfres yn rhoi sylw i ymateb y Frenhines i'r digwyddiad. Fe ymwelodd ag Aberfan wyth niwrnod wedi'r trychineb.

Mae lle i gredu bod y cynhyrchwyr wedi siarad gyda chynrychiolwyr y gymuned leol i ofyn am help i gyflwyno'r hanes.

Olivia Colman sy'n protreadu'r Frenhines yn y drydedd gyfres, gan olynu Claire Foy.

Ffynhonnell y llun, Mark Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r plant fydd i'w gweld yn y golygfeydd am drychineb Aberfan

Mae lluniau'n dangos actorion mewn gwisgoedd o'r 1960au a chriwiau cynhyrchu ar leoliad.

Bydd y gyfres yn cael ei darlledu yn 2019.

Mae BBC Cymru wedi cysylltu gyda Netflix, Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Amgueddfa Lofaol Cymru am sylw.

Ffynhonnell y llun, Mark Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Ail-gread o Ysgol Pantglas ar gyfer y gwaith ffilmio