Cyngor 'methu fforddio' gwasanaeth ailgylchu cewynnau
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn dweud na allai'r awdurdod ystyried cyflwyno gwasanaeth ailgylchu clytiau yn y sir am na fedar fforddio gwneud hynny.
Dywedodd y Cyngorydd Ted Latham, sy'n gyfrifol am faterion gwastraff yr awdurdod, y byddai'n costio £500,000 i sefydlu gwasanaeth o'r fath.
Roedd dau gynghorydd Plaid Cymru, Rosalyn Davies a Nigel Thomas Hunt, wedi galw ar yr awdurdod i "ddilyn esiampl saith cyngor arall yng Nghymru ac ailgylchu clytiau yn hytrach na'u tirlenwi neu eu llosgi".
Mae'r gwasanaeth ar gael eisoes yn siroedd Blaenau Gwent, Penybont, Caerfyrddin, Conwy, Gwynedd, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe.
Yn ôl Mr Latham byddai'n rhaid prynu pedwar o gerbydau arbennig, sefydlu unedau casglu a chyflogi staff ychwanegol.
Dywedodd bod cynghorwyr o bob plaid ar y cyngor eisoes wedi cytuno na allai'r awdurdod fforddio costau sefydlu gwasanaeth yn ystod trafodaethau yn y flwyddyn ddiwethaf am strategaeth gwastraff newydd.
'Dim mantais ariannol'
Clywodd aelodau'r Pwyllgor Craffu Strydlun a Pheirianeg fod dim mantais ariannol i ailgylchu clytiau ar hyn o bryd gan nad oes galw amlwg am fwrdd ffeibr - y deunydd sy'n ganlyniad i'r broses.
Dywedodd pennaeth yr adran gofal stryd, Mike Roberts said: "Mae gyda ni dâl gosod o ran llosgi... ond fyddan ni ddim o reidrwydd yn gwneud arbediad [trwy drin y deunydd mewn ffordd wahanol].
"Dydyn ni ddim yn sôn am [gymharu manteision ac anfanteision] tirlenwi clytiau a chymryd 500 mlynedd i bydru o'i gymharu â bwrdd ffeibr.
"Mae'n ymddangos nad dyma'r amser cywir, ond dyw hynny ddim yn golygu na fydd yna amser yn y dyfodol pan fyddai gwasanaeth wythnosol yn talu yn nhermau amgylcheddol ac ariannol, ond ni alla'i argymell hynny nawr."
Dywedodd y dirprwy arweinydd, Anthony Taylor bod yna awydd yn gyffredinol i ailgylchu mwy a bod y cyngor "wedi gwneud job ardderchog hyd yma".
Ond mae'r awdurdod, meddai, angen gwneud gwerth £16m o doriadau yn y misoedd nesaf, ac arbed £64m rhwng nawr a 2022/23.
Fe gytunodd y cynghorwyr oedd wedi galw am y newid i dynnu'r cynnig yn ôl ar gais Mr Taylor, am ei fod yn gynamserol ac er mwyn osgoi pleidlais yn gwrthod y syniad.
Mae wedi awgrymu trafodaethau pellach i edrych i'r cynllun yn fanylach unwaith y bydd penderfyniadau wedi eu gwneud ynglŷn â'r toriadau ariannol sydd i ddod.
Dywedodd y Cynghorydd Davies ei bod yn fodlon bod y mater wedi cael ei drafod gan y cyngor llawn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Medi 2018
- Cyhoeddwyd27 Medi 2016
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2012