Pro 14: Glasgow 29-13 Dreigiau

  • Cyhoeddwyd
Lee JonesFfynhonnell y llun, SNS Group

Roedd gwaith ymosodol Lee Jones a'r Glasgow Warriors yn ddigon i drechu'r Dreigiau ac ennill pwynt bonws ar noson anodd i'r tîm o Gasnewydd.

Er gwaethaf ymdrechion yr ymwelwyr, llwyddodd Glasgow i sgorio pum cais - gan gynnwys dwy gan Jones.

Adam Warren sgoriodd yr unig gais i'r Dreigiau, yn dilyn gwaith ardderchog i ddilyn cic gelfydd er mwyn trosi o dan y pyst.

Roedd diffyg bygythiad ymosodol y Dreigiau yn amlwg wrth i'r tîm cartref ymestyn eu mantais i 29-13 yn hwyr yn y gêm.

Mae'r Dreigiau nawr yn chweched yn y tabl.