Ethol Adam Price fel arweinydd newydd Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cafodd Adam Price ei gyflwyno fel arweinydd newydd Plaid Cymru yng ngwesty Novotel yng Nghaerdydd

Mae Adam Price wedi cael ei ethol fel arweinydd newydd Plaid Cymru.

Cafodd etholiad ei alw yn dilyn penderfyniad Adam Price a Rhun ap Iorwerth i herio Leanne Wood am y swydd ym mis Gorffennaf.

Aeth y cyfrif i'r ail rownd gan nad oedd yr un ymgeisydd wedi ennill 50% neu'n fwy o'r bleidlais.

Enillodd Mr Price - Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr - gyda 3,481 o bleidleisiau wedi'r ail rownd, gyda Mr ap Iorwerth yn ail â 1,961.

Aeth Ms Wood allan wedi'r rownd gyntaf gyda 1,286 o bleidleisiau.

Yn y rownd gyntaf, derbyniodd Mr Price 2,863 pleidlais, gyda Mr ap Iorwerth yn derbyn 1,613.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan LeanneWood 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan LeanneWood 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Yn ei araith gyntaf fel arweinydd, dywedodd Mr Price y byddai'r blaid yn ffurfio'r llywodraeth nesaf yng Nghymru yn 2021.

"Mae'r etholiad yma'n dangos ein bod ni'n barod i arwain eto," meddai. "Mae'n hamser ni wedi dod."

'Na' i glymbleidio

Wrth siarad ar raglen Taro'r Post BBC Radio Cymru, fe awgrymodd Mr Price na fyddai'n ystyried gweithio gyda'r Blaid Lafur na'r Ceidwadwyr.

"Plaid genedlaethol yw Plaid Cymru," meddai. "Mae dwy blaid geidwadol yng Nghymru ar hyn o bryd, un gyda 'c' fawr ac un gyda 'c' fach.

"Mae'r ddwy blaid wedi gadael Cymru i lawr. Na i'r ddwy blaid."

Canran o'r bleidlais wedi'r rownd gyntaf:

  1. Adam Price: 49.7%

  2. Rhun ap Iorwerth: 28%

  3. Leanne Wood: 22.3%

Roedd ein Golygydd Materion Cymreig, Vaughan Roderick, yn agos iawn at y canlyniad wrth ddarogan y canlyniad cyn y cyfrif.

Wrth drafod annibyniaeth, dywedodd Mr Price: "Yw e'n dychryn pobl neu yw e'n cyffroi pobl?

"Mae'n rhaid i ni freuddwydio. Wrth gwrs ei fod e'n uchelgeisiol, ond onid oes rhaid i ni chwistrellu rhywfaint o uchelgais 'nôl mewn i wleidyddiaeth Cymru sydd wedi mynd mor ddilyw, mor llwydaidd, mor ddiddychymyg yn ystod y blynyddoedd diwetha'?

"Dyna mae pobl yn mynd i gael gan Blaid Cymru o dan fy arweinyddiaeth i.

"Mae'n rhaid i ni sicrhau bod gennym ni weledigaeth sy'n tanio dychymyg ar draws Cymru sy'n rhoi iddyn nhw syniad bod gan y Blaid atebion i'w problemau nhw."

Dywedodd fod angen "dod ag aelodau newydd fewn i'r blaid" a "sicrhau ein bod ni'n edrych fel darpar lywodraeth".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd AC Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, bod yr etholiad wedi bod yn "beth da" i'r blaid

Roedd 71% o aelodau'r blaid wedi pleidleisio - tua 6,000 o bobl.

Mae gan y blaid tua 8,000 o aelodau ac roedd pob un bleidlais yn gyfartal yn yr etholiad arweinyddol.

Roedd Ms Wood wedi arwain Plaid Cymru ers 2012.

Ymgyrch 'egnïol'

Yn siarad wedi'r canlyniad, dywedodd Mr ap Iorwerth bod yr ymgyrch "wedi bod yn egnïol i Blaid Cymru".

"Mae'r diddordeb sydd wedi'i ddangos gan aelodau, y niferoedd sydd wedi dod i'r hystings, y nifer sydd wedi pleidleisio, oll yn dangos bod hyn wedi bod yn beth da," meddai.

"Y cwestiwn oedd sut i adeiladu ar y gwaith caled, rhagorol, mae Leanne wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf."

Ychwanegodd: "Yr hyn sy'n bwysig rŵan ydy edrych tua'r dyfodol a meddwl sut ydyn ni fel plaid yn gallu dod at ein gilydd, a dod a'r weledigaeth unedig sy'n ein clymu, i ddod â llwyddiant i Blaid Cymru er mwyn genedl."

Dadansoddiad gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Arwyn Jones

Roedd ymgyrch Adam Price yn wahanol i'r lleill gan ei fod yn byrlymu o syniadau.

Mae torri 9c oddi ar dreth incwm, cael gwared â threth y cyngor a chyflwyno treth yn seiliedig ar werth tir yn syniadau radical, allai newid economi Cymru mewn ffordd go sylfaenol.

Ond maen nhw hefyd yn syniadau arloesol; does yr un wlad arall yn defnyddio system o'r fath.

Mi holais i Adam Price am hyn ar ôl ei fuddugoliaeth, a'i bwynt o ydy fod angen newidiadau pellgyrhaeddol; o lynu at yr un hen ffyrdd o wneud pethau am 20 mlynedd arall, fydd dim byd yn newid.

Efallai mai dyna oedd wedi swyno'r trwch o aelodau'r blaid wnaeth ei gefnogi.

Ond mi fydd yna sawl her. Mi ddywedodd un o gefnogwyr Rhun ap Iorwerth wrtha'i eu bod nhw'n hoffi "sefydlogrwydd cymeriad" aelod Ynys Môn. Roedd y neges yn glir; mae Price yn gallu bod yn chwit-chwat ar adegau.

Hyd yn oed i'w gefnogwyr mae yna synnwyr o orfod ffrwyno rhai o'i syniadau.

Yn fwy diweddar mae'r blaid wedi ceisio apelio i etholwyr fwy adain chwith. Ond o dan arweinyddiaeth Jeremy Corbyn yn y Blaid Lafur Prydeinig, mae hynny yn dir llai ffrwythlon erbyn hyn i'r cenedlaetholwyr.

Felly'r her rŵan fydd gosod trywydd i'r blaid i'w gosod ar wahân i'r hyn mae pleidiau eraill yn ei gynnig.

Tybed ai gallu Adam Price i anelu am yr entrychion wrth feddwl am bolisïau fydd y ffordd o wneud hynny?

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw