'Annibyniaeth er mwyn dianc rhag tlodi'

  • Cyhoeddwyd
Adam Price, Rhun ap Iorwerth a Leanne Wood

Annibyniaeth yw'r llwybr gorau er mwyn dianc rhag tlodi i nifer o bobl Cymru, yn ôl Adam Price.

Dywed yr AC fod angen tawelu ofnau a mynd ati i berswadio pobl y gallai hyn fod yn 'well prosiect na Brexit' o ran cyflwyno newid - newid meddai, mae pobl am ei weld oherwydd dicter tuag at y sefydliad gwleidyddol.

Mae Mr Price a Rhun ap Iorwerth yn herio Leanne Wood ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru.

Mae Ms Wood wedi arwain y blaid ers 2012, a bydd canlyniadau'r bleidlais ar 28 Medi.

Mae'r cwestiwn o annibyniaeth yn rhywbeth fydd yn rhaid i'r tri fynd i'r afael ag o.

Dywed Ms Wood mai "ysbrydoli cymunedau" a sicrhau mwy o bŵer yn y Senedd yw'r her gyntaf.

Fe roedd y tri ymgeisydd cymryd rhan mewn dadl ar raglen Wales Sunday Supplement ar BBC Radio Wales.

Dywedodd Ms Wood fod gan y blaid y nifer mwyaf erioed o ASau (pedwar), dau o'r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd, a'r blaid yw'r ail fwyaf o ran nifer o gynghorwyr.

Gan gyfeirio at ei llwyddiant yn cipio Rhondda yn etholiadau'r cynulliad yn 2016, ychwanegodd: "Mae hyn yn dangos beth sy'n bosib. "

"Mae'r sylfeini yn eu lle, a gallwn nawr ennill etholiadau mewn ardaloedd traddodiadol y blaid Lafur."

Ond dywedodd Mr Price er gwaetha'r "oases bach o lwyddiant' yn Rhondda ynghyd â llwyddiant yn ei etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr - roedd angen i'r blaid ymestyn ei hapêl.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rhun ap Iorwerth ei ethol yn AC Ynys Môn am y tro cyntaf yn dilyn isetholiad yn 2013

Dywedodd y cyn newyddiadurwr Rhun ap Iorwerth, AC Ynys Môn, ei fod am "adeiladu'r cynghrair ehangach posib."

"Ddim dim ond pobl ar y chwith ac yn y canol, ond ffermwyr a'r rhai sy'n credu yng Nghymru a'r dyfodol ac sydd am gyfrannu," meddai.

Pe bai'r blaid yn llwyddo i reoli'r Senedd - fe enillodd 12 o'r 60 sedd yn 2016, dywed Ms Wood y gallai wedyn ffocysu ar ei "darged craidd" o annibyniaeth.

"Mae'n rhaid derbyn y ffaith bod nifer o bobl yn bryderus ac ofn y syniad," meddai Ms Wood.

"Mae'n rhaid dadlau'r' achos mewn modd gonest, y ffactorau economaidd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe lwyddodd Leanne Wood i gipio etholaeth Rhondda yn 2016

Dywedodd y byddai hyn yn cymryd dau gyfnod o lywodraeth Plaid Cymru - gan gyfeirio at y "650 o dudalennau oedd yn ateb pob cwestiwn posib" gafodd ei gyhoeddi gan yr SNP cyn y refferendwm yn yr Alban.

Pan ofynnwyd a oedd annibyniaeth yn gynaliadwy, gan mai Cymru yw un o wledydd tlotaf Ewrop, dywedodd Mr Iorwerth: "Fe fyddai Gweriniaeth Iwerddon wedi bod ar fap y gwledydd tlotaf cyn annibyniaeth."

Ychwanegodd wrth i ddarlun mwy clir o Brexit ymddangos byddai'n "fwy am losgi pontydd a chodi muriau" ond yn gyntaf roedd rhaid i Blaid Cymru "gydnabod ofnau pobl."

Disgrifiad o’r llun,

Adam Price oedd AS Dwyrain Caerfryddin a Dinefwr rhwng 2001 a 2010, ac yn AC ers 2016.

"Mae o ynglŷn ag ailgynllunio Prydain i gasgliad o wledydd sy'n cydweithio gyda'i gilydd, " meddai.

Dywedodd Mr Price: "Mae'n rhaid cydnabod nad yw annibyniaeth yn gwestiwn haniaethol, ond yn gwestiwn am fywydau pobl, a'r tlodi sy'n wynebu nifer o bobl.

"Hwn yw'r llwybr sy'n rhaid i ni ei ddilyn ar gyfer mwyafrif pobl Crymu."