Llwyddiant i gogyddion o Gymru yng nghanllaw Michelin

  • Cyhoeddwyd
Tomos ParryFfynhonnell y llun, Brat
Disgrifiad o’r llun,

Mae bwyd Tomos Parry wedi ennill edmygedd selebs fel Brad Pitt - a nawr seren Michelin!

Mae Tomos Parry o Ynys Môn wedi ennill ei seren Michelin gyntaf am ei fwyty yn Llundain.

Agorodd Tomos fwyty Brat yn Shoreditch ym mis Mawrth 2018 ac mae wedi mynd o nerth i nerth. Cafodd y seren ei gwobrwyo i Tomos gan Michelin am "goginio rhagorol dros dân agored".

Mae nifer o gogyddion a bwytai Cymreig wedi ennill gwobrwyon gan Michelin yn y fersiwn ddiweddaraf o'r canllaw i fwytai Prydain Fawr ac Iwerddon.

Mae bwyty'r cogydd Bryn Williams ym Mhorth Eirias, Bae Colwyn, hefyd wedi profi llwyddiant am y tro cyntaf, gan ennill teitl Bib Gourmand.

Dyma deitl sydd gam yn is na seren Michelin, ac yn cael ei rhoi i fwytai ag awyrgylch gyfeillgar, sydd yn gweini bwyd am brisiau rhesymol.

Cafodd y bwyty ei wobrwyo am ei goginio "Cymreig di-ffws, gyda bwyd môr lleol yn goron ar y cyfan".

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae bwyty Bryn Williams ym Mae Colwyn wedi bod ar agor ers haf 2015

Pwy arall sydd wedi llwyddo?

Mae seren Michelin yn rhywbeth mae'r rhan fwyaf o gogyddion a bwytai yn anelu tuag ato. Gall Michelin wobrwyo hyd at dair seren am fwyd eithriadol o dda.

Ond mae hi'n anodd ennill y sêr yma; dim ond pump bwyty yn Michelin Guide Great Britain and Ireland 2019 sydd yn haeddu tair seren.

Mae gan saith bwyty yng Nghymru un seren Michelin yr un, sef Sosban and The Old Butchers, The Checkers, The Whitebrook, Ynyshir, Restaurant James Sommerin, The Walnut Tree Inn a Tyddyn Llan.

Fodd bynnag, ychydig ddyddiau cyn i wobrwyon 2019 gael eu cyhoeddi, penderfynodd berchnogion bwyty The Checkers yn Nhrefaldwyn eu bod am roi eu seren yn ôl.

Ffynhonnell y llun, The Checkers
Disgrifiad o’r llun,

Stephane Borie a Sarah a Kathryn Francis, perchnogion The Checkers

Cafodd y seren ei gwobrwyo i'r bwyty gyntaf yng nghanllaw 2012, ond bellach mae Stephane Borie a Sarah a Kathryn Francis wedi penderfynu eu bod eisiau mwy o amser gyda'u teuluoedd, gan nodi fod ceisio cadw'r safon uchel sydd yn haeddu seren Michelin yn anodd a blinedig tu hwnt.

Yn dilyn llwyddiant bwyty Bryn Williams yn Porth Eirias, bellach mae tri bwyty yng Nghymru yn gallu brolio fod ganddyn nhw anrhydedd Bib Gourmand - mae Hare & Hounds, Aberthin, a Felin Fach Griffin, ger Aberhonddu, yn dal eu gafael yn dynn ar y teitl a roddwyd iddyn nhw yng nghanllaw 2018.