Sgandal Thorpe: Dim prawf o farwolaeth Andrew Newton

  • Cyhoeddwyd
Thorpe a Scott
Disgrifiad o’r llun,

Honnai Norman Scott (dde) ei fod yn gariad i Jeremy Thorpe, a bod Mr Thorpe wedi trefnu i rywun i geisio ei ladd

Wrth ail-ymchwilio i achos yn ymwneud â sgandal Jeremy Thorpe yn y 1970au, doedd yna'r un heddwas wedi gweld cadarnhad bod y dyn a gafodd ei amau o geisio lladd Norman Scott wedi marw.

Credodd Heddlu Gwent fod Andrew Newton wedi marw ers tair blynedd, ond nid oeddent wedi gweld tystysgrif marwolaeth.

Honnir ei fod wedi ceisio saethu Norman Scott, a fu'n gariad i'r cyn-arweinydd Rhyddfrydol Mr Thorpe, ar Exmoor yn 1975.

Cyfeiriodd Heddlu Gwent at ddatganiad o fis Mehefin yn dweud bod digon o sail ganddynt i gredu ei fod wedi marw.

Dim golwg o dystysgrif?

Gan ymateb i gais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru, dywedodd yr heddlu bod swyddogion wedi meddwl bod Mr Newton wedi marw am i'r "wybodaeth gael ei roi wrth drosglwyddo'r achos rhwng Avon a Somerset a Heddlu Gwent" a'i fod wedi ei gefnogi gan wiriad pellach.

Er gwaethaf y gwiriadau hynny, ni welodd yr un swyddog dystysgrif marwolaeth i Andrew Newton.

Ni ymatebodd Heddlu Gwent pan ofynnwyd iddynt ymhelaethu ar ba wybodaeth a'u harweiniodd i gredu bod Mr Newton wedi marw.

Dywedodd llefarydd ar ran y llu: "Darparodd heddlu Avon a Somerset yr holl ddogfennau angenrheidiol i Heddlu Gwent i'w cynorthwyo gyda'r ymchwiliad."

Beth sydd wrth wraidd sgandal Jeremy Thorpe?

  • Jeremy Thorpe oedd AS Gogledd Dyfnaint am 20 mlynedd ac arweinydd y Blaid Ryddfrydol rhwng 1967-76. Bu farw yn 2014;

  • Rhwng 1960-61, fe wnaeth gyfarfod Norman Scott, oedd yn gweithio i un o gyfeillion Mr Thorpe yn Sir Rhydychen. Dywedodd Mr Scott bod y ddau yn gariadon, mewn cyfnod lle'r oedd cyfunrhywiaeth yn anghyfreithlon;

  • Treuliodd Mr Scott flynyddoedd yn ceisio datgelu'r berthynas i'r cyhoedd, gan yna honni bod Mr Thorpe wedi cynllwynio gyda chydweithwyr i'w ladd.

Disgrifiad o’r llun,

Bu Jeremy Thorpe yn llys yr Old Bailey yn 1979 am gynllwynio i lofruddio Norman Scott

  • Yn 1975, saethodd Andrew Newton gi Mr Scott, Rinka, ar heol wledig yn Exmoor, ond methodd â lladd Mr Scott wedi trafferthion gyda'i ddryll;

  • Ymddiswyddodd Mr Thorpe fel arweinydd y Blaid Ryddfrydol yn 1976 yn sgil yr adroddiadau, ond gwadodd honiadau Mr Scott. Collodd ei sedd yn 1979;

  • Safodd Mr Thorpe, ynghyd â thri diffynnydd arall, o flaen eu gwell yn 1979. Rhannodd cyn-AS Rhyddfrydol Peter Bessell a'r llofrudd aflwyddiannus, Newton, fanylion o'r cynllwyn. Penderfynodd rheithgor nad oedd yr un o'r pedwar yn euog.

Credodd swyddogion bod Mr Newton, sydd hefyd yn defnyddio'r enw Hann Redwin, wedi marw ers mis Medi 2015, tan i ymchwiliadau newydd ym mis Mai 2018 ddangos trywydd newydd i'r ymchwiliad.

Heddlu Avon a Somerset oedd yn ymchwilio i'r achos yn wreiddiol, ond yn 2015, cafodd ei drosglwyddo i Heddlu Gwent yn dilyn honiadau o lygredd o fewn yr heddlu gan Dennis Meighan.

Honnodd Mr Meighan ei fod wedi cael ei ofyn i lofruddio Mr Scott a bod ei ddatganiad i'r heddlu wedi cael ei addasu i waredu tystiolaeth ddamniol o'r Blaid Ryddfrydol a Mr Thorpe.

Ar ôl darganfod bod Mr Newton yn fyw, fe siaradodd â Heddlu Gwent, ond "nid oedd yn gallu cynnig unrhyw dystiolaeth pellach i'r hyn oedd wedi ei gasglu yn barod yn yr ymchwiliad gwreiddiol".

O ganlyniad, mae'r ymchwiliad i'r ymgais i lofruddio Mr Scott yn parhau i fod ar gau.

Disgrifiad o’r llun,

Mewn rhaglen ddogfen, dywedodd Norman Scott nad oedd neb "wedi ymdrechu'n galed iawn" i chwilio am Mr Newton

Wrth siarad ar raglen ddogfen gan BBC 4 yn gynharach eleni, dywedodd Mr Scott, sydd bellach yn 78 oed, bod yr heddlu'n parhau i guddio gwybodaeth.

Honnodd Mr Scott: "Dwi ddim yn credu bod unrhyw un wedi ymdrechu'n galed iawn i chwilio amdano. Dwi wirioneddol ddim. Mae'n rhaid bod yna bobl oedd yn ei adnabod, a bod yna gofnod o'i farwolaeth.".