Cefnogaeth i ddioddefwyr troseddau rhyw yn 'annerbyniol'

  • Cyhoeddwyd
Dynes fregusFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae plant sydd wedi cael eu treisio neu eu cam-drin yn rhywiol yn disgwyl yn rhy hir am gefnogaeth, yn ôl Comisiynydd Plant Cymru.

Yn ei adroddiad blynyddol, mae Sally Holland yn dweud bod y sefyllfa yn "annerbyniol", a bod angen i Lywodraeth Cymru sicrhau fod gan blant fynediad i gefnogaeth arbenigol cyn gynted â phosib ar ôl dioddef trawma.

Ychwanegodd bod plant sydd wedi cael eu cam-drin yn disgwyl yn rhy hir am gwnsela arbenigol a bod rhaid iddyn nhw deithio yn rhy bell i gael archwiliadau meddygol fforensig arbenigol wedi ymosodiad.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y dylai gofal i ddioddefwyr fod yn flaenoriaeth - a'u bod nhw'n edrych ar ddatblygu gwasanaeth trawma ar draws Cymru.

Mae mam i blant o dde Cymru, a gafodd eu cam-drin yn rhywiol gan eu tad, yn cefnogi'r galwadau i wella'r ddarpariaeth.

Yn ystod yr ymchwiliad troseddol, fe ddaeth i'r amlwg ei fod e wedi darlledu lluniau o'i blant yn cael eu cam-drin yn fyw ar y we.

'Mae pethau'n gallu newid'

Mae'r fam yn dweud bod y gefnogaeth dderbyniodd ei phlant ar ôl cael eu cam-drin wedi chwarae rhan allweddol yn eu hadferiad.

"Ma' fe wedi bod yn amser tywyll ac anodd iawn, ddim just i'r plant, ond i fi, i'r teulu, i'n ffrindiau ni. 'Nath popeth newid.

"Mae'r gefnogaeth wedi helpu ni gyda phopeth i fod yn onest. Ma' di helpu'r plant i ddeall beth sydd wedi digwydd ac mae wedi helpu fi i helpu'r plant. Ni 'di gweld bod dyfodol gyda ni - a bod pethau'n gallu newid."

Disgrifiad,

Mwy o gefnogaeth i blant yn 'hanfodol'

Dim ond canolfannau yng Nghaerdydd ac ym Mae Colwyn sy'n cynnig gwasanaeth archwiliadau meddygol fforensig arbenigol i blant yn dilyn ymosodiad.

Mae 553 o blant yn disgwyl am apwyntiad cwnsela ar draws Cymru, ac mae amseroedd aros yn amrywio o dri mis i dair blynedd mewn rhai ardaloedd.

Yn ei hadroddiad blynyddol, mae Ms Holland yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad oes rhaid i blant ddisgwyl cyn cael cefnogaeth.

Dywedodd Ms Holland: "Rwy wedi clywed am achosion dychrynllyd ble mae plant wedi aros dyddiau cyn cael archwiliad, ac wedi gorfod teithio gyda'r nos i weld rhywun ar ôl cael profiad erchyll. Dyw hynny ddim yn iawn."

"Mewn un achos, roedd rhaid i blentyn 4 oed o'r canolbarth deithio i Gaerdydd yn hwyr yn y nos, a disgwyl sawl awr cyn bod archwilydd fforensig meddygol yn cyrraedd. Erbyn hynny, roedd [y plentyn] yn llwglyd, wedi blino a llai parod i gael ei archwilio, gan wneud y broses yn anoddach i'r plentyn a phawb arall. "