Troseddau rhyw: Penodi mwy o blismyn yn 'flaenoriaeth'

  • Cyhoeddwyd
Dynes fregusFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae angen recriwtio mwy o swyddogion heddlu fel "blaenoriaeth" i fynd i'r afael â chynnydd sylweddol mewn ymosodiadau rhyw, yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru.

Mae'r llu wedi gweld cynnydd o 257% yn nifer yr achosion o dreisio a throseddau rhyw difrifol - o 727 o droseddau yn 2011/12 i amcangyfrif o 2,593 yn 2017/18.

Yn ôl Comisiynydd Heddlu'r rhanbarth, Alun Michael, mae'n fwriad i benodi 148 o blismyn ychwanegol ond mae angen cyflymu'r broses.

Dywedodd NSPCC Cymru bod nifer achosion rhyw yn erbyn plant wedi cynyddu'n "frawychus".

Mae adroddiad gan Mr Michael yn dweud bod cynnig wedi ei gyflwyno yn 2016 i benodi staff ychwanegol ar gyfer uned trosedd arbenigol.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Alun Michael mae angen cyflymu'r broses o recriwtio plismyn ychwanegol

Roedd disgwyl y byddai'r swyddogion yn delio ag achosion o drais yn y cartref, gwarchod plant a chamdrin rhywiol, ac i weithredu'r broses benodi erbyn Awst 2019.

Dywed yr adroddiad mai'r her fwyaf sy'n wynebu'r heddlu yw "gwarchod pobl fregus yn effeithiol".

Ond dywedodd Mr Michael bod cynnydd yn nifer y troseddau rhyw yn golygu y dylid mynd ati i lenwi'r swyddi yn gynt - cyn diwedd blwyddyn ariannol 2018/19.

Mae'r adroddiad yn nodi:

  • Disgwyl i 500 yn rhagor gofrestru fel troseddwyr rhyw yn y tair blynedd nesaf ar sail tueddiadau cyfredol;

  • Cynnydd o 31% yn nifer yr achosion yn cynnwys troseddwyr rhyw cofrestredig yn y pedair blynedd diwethaf - o 1,551 yn Rhagfyr 2013 i 2,031 yn Rhagfyr 2017;

  • Cynnydd o 68% yn nifer yr achosion sy'n cael eu cyfeirio at ymchwiliadau annibynnol i gamdrin plant yn rhywiol - o 16 yn 2016 i 27 yn 2017;

  • Cynnydd o 69% mewn dwy flynedd mewn ymchwiliadau i honiadau hanesyddol o gamdrin plant yn rhywiol - o 16 yn 2015 i 25 yn 2017.

Mae NSPCC Cymru'n dweud bod eu hymchwil nhw'n dangos bod nifer y troseddau rhyw yn erbyn plant sy'n cael eu cofnodi "wedi codi'n frawychus o flwyddyn i flwyddyn ac wedi treblu yn y degawd diwethaf".

Dywedodd llefarydd bod y rhesymau am y cynnydd yn cynnwys mwy o droseddu ar-lein, gwelliannau yn y ffordd y mae'r heddlu'n cofnodi achosion, a'r ffaith bod dioddefwyr yn fwy parod i fynd at yr heddlu.

"Fel cymdeithas, mae angen i ni wneud mwy i warchod pobl ifanc rhag camdrinwyr posib ac i greu awyrgylch lle mae dioddefwyr yn cael yr help sydd angen i wella'n llwyr," meddai'r llefarydd.

Cyllideb

Mae adroddiad y Comisiynydd Heddlu'n amlinellu'r prif faterion perthnasol wrth bennu cyllideb Heddlu De Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf a chyfraniad y cyhoedd fel rhan o'r dreth cyngor.

Er mwyn ymdopi â phwysau ychwanegol a thoriadau diweddar i gyllideb y llu mae Mr Michael yn argymell cynnydd o 7% yn y cyfraniad at waith yr heddlu yn 2018/19.

Mae hynny'n gyfystyr â £1.27 yn fwy bob mis ar gyfer eiddio band D - cyfanswm o £233.52 y flwyddyn.

Bydd y Panel Heddlu a Throsedd yn ystyried cynnwys yr adroddiad ar 30 Ionawr.