Llofruddiaeth Pentywyn: Arestio mwy

  • Cyhoeddwyd
Simon ClarkFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Simon Clark ei ddarganfod fore Gwener, Medi 28

Mae pedwar o bobl bellach wedi cael eu harestio gan yr heddlu, sy'n ymchwilio i lofruddiaeth ym Mhentywyn ddydd Gwener 28 Medi.

Cafodd corff Simon Peter Clark, 54 oed, ei ddarganfod ar faes carafanau'r Grove tua 10:00 ddydd Gwener.

Cafodd dyn 48 oed ei arestio dan amheuaeth o lofruddiaeth ar ddydd Sul, ac mae e'n parhau yn y ddalfa.

Yn ogystal, cyhoeddodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod hefyd wedi arestio dynes 46 oed ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr ddydd Sul.

Erbyn hyn mae'r heddlu hefyd wedi cyhoeddi bod yna ail ddynes, 52 oed, hefyd wedi cael ei harestio dan amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Mae'r ddwy yn parhau yn y ddalfa.

Cafodd dyn arall, 48 oed, ei arestio hefyd ar ddydd Gwener, ond cafodd ei ryddhau.

Apelio am wybodaeth

Mae'r plismyn yn parhau i apelio ar unrhyw un a oedd yn aros yn y maes carafanau, ac a welodd unrhyw beth o'i le rhwng 17:00 ddydd Iau a 10:00 ddydd Gwener diwethaf i gysylltu â nhw.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Paul Jones: "Byddwn yn annog unrhyw un yn y gymuned sydd ag unrhyw wybodaeth all gynorthwyo'r swyddogion gyda'r ymchwiliad i gysylltu cyn gynted â phosib.

"Gall unrhyw wybodaeth fod yn hynod bwysig wrth greu llun o'r amgylchiadau a arweiniodd at farwolaeth Simon."