Cymru'n cael pŵer deddfu ar ffracio
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael y pŵer i ddeddfu ar y gwaith o chwilio am betrolewm ar dir, gan gynnwys yr arfer o ffracio.
Hyd yn hyn Llywodraeth y DU ac Awdurdod Olew a Nwy y DU oedd â'r hawl i roi trwyddedau i gwmnïau.
Daeth y cyhoeddiad yn dilyn ymgynghoriad ar echdynnu petrolewm, a ddaeth i ben ar 25 Medi, ac yn ôl Llywodraeth Cymru daeth dros 1,800 o ymatebion i law.
Ym mis Gorffennaf dywedodd y Gweinidog Ynni, Lesley Griffiths, na fyddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi unrhyw geisiadau am hollti hydrolig, neu ffracio, nac yn trwyddedu unrhyw waith i chwilio am betrolewm yng Nghymru.
Yn sgil hynny mae'r llywodraeth wedi gwahardd awdurdodau lleol rhag cymeradwyo ceisiadau am olew a nwy anghonfensiynol, gan gynnwys ffracio, heb gael cymeradwyaeth gweinidogion Cymru.
Roedd y llywodraeth eisioes wedi awgrymu y byddan nhw'n cefnogi ymdrechion i wahardd yr arfer yng Nghymru ar sail diogelwch.
Dywedodd Lesley Griffiths: "Llosgi tanwyddau ffosil yw'r prif beth sy'n cyfrannu at gynhesu byd-eang ac mae yna dystiolaeth wyddonol hynod gryf sy'n dangos sut mae'r newid yn yr hinsawdd yn niweidio'n planed.
"Yn lle edrych ar ffyrdd newydd o echdynnu tanwyddau ffosil, dylen ni fod yn buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy.
"Fel llywodraeth, rhaid inni fod yn gyfrifol wrth reoli'n hadnoddau naturiol, gan wneud hynny mewn ffordd sydd nid yn unig yn diwallu anghenion pobl Cymru heddiw, ond hefyd yr anghenion a fydd ganddyn nhw yn y dyfodol."
Dywedodd Ms Griffiths y bydd y llywodraeth yn amlinellu eu polisi ar y pwnc ymhen ychydig fisoedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Medi 2018
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2015