Adam Price: 'Rhaid atal cynllun Brexit y DU'
- Cyhoeddwyd
Rhaid i gynllun Brexit Llywodraeth y DU gael ei atal ac fe fydd Plaid Cymru yn ymgyrchu "mor galed ag y gallwn ni" i gadw'r DU yn yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl arweinydd newydd y blaid.
Dywedodd Adam Price fod Plaid Cymru yn galw "yn glir a diamwys" am refferendwm ar delerau terfynol Brexit.
"Mae cortyn argyfwng ar y trên yma ac mae'n rhaid i ni ei dynnu," meddai.
Mae Theresa May wedi gwrthod ail refferendwm gan ddweud fod yn rhaid parchu canlyniad yr un cyntaf.
Pethau 'wedi newid'
Wedi'r bleidlais honno yn 2016 dywedodd cyn-arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, nad oedd y canlyniad "yn ddigon agos i gael ei wyrdroi na'i gwestiynu".
Ond fe ddywed Adam Price ei fod yn credu bod y "seiliau wedi newid" ers hynny gan fod "y sefydliad Prydeinig wedi dangos eu anallu llwyr i gyflawni unrhyw beth, Brexit neu fel arall".
Ychwanegodd AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr: "Does gen i ddim ffydd o gwbl yn yr un o'r ddwy blaid Brydeinig i gynnig unrhyw beth call, ac mae amser yn mynd yn brin - dyna'r realiti.
"Mae'n troi felly yn ddewis deublyg. Fe fyddwn i wrth fy modd pe byddai rhyw fath o dröedigaeth ac y byddai Jeremy Corbyn a Theresa May yn newid eu meddyliau a dweud 'na, y ffordd gallaf ymlaen yw ein cadw ni yn y farchnad sengl a'r undeb dollau ond cyflawni'r broses o adael yr UE'.
"Ond dyw hynny'n amlwg ddim yn mynd i ddigwydd.
"Ry'n ni ar fwrdd y Titanic. Ry'n ni'n mynd ar ein pennau i mewn i fynydd iâ. Rhaid i ni gymryd pob cyfle i osgoi'r hyn yr ydw i'n credu allai fod y trychineb mwyaf i'n pobl ni ers sawl cenhedlaeth."
'Steil personol'
Dros yr haf fe wnaeth AS etholaeth Mr Price, Jonathan Edwards, ymosod ar Leanne Wood am ei "diffyg arweiniad" dros fater Brexit.
Wrth gael ei holi am hynny dywedodd Adam Price: "Ni sydd wedi bod y blaid fwyaf cyson yn yr ynysoedd yma ar y mater hwn.
"Nawr yn amlwg fe fydd gan bawb bwyslais gwahanol, ac mae hynny'n rhan o steil gwleidyddol personol.
"Ond yn nhermau ein safbwynt polisi ry'n ni wastad wedi bod yn gyson am y cwestiwn yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Medi 2018
- Cyhoeddwyd31 Mai 2018
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2017