Pensiynwr wedi'i 'glymu a'i ladd yn ei gartref'

  • Cyhoeddwyd
John Jack WilliamsFfynhonnell y llun, Llun teulu

Clywodd llys bod pensiynwr wedi'i "glymu" cyn cael ei lofruddio yn ei gartref yn Abertawe yn gynharach eleni.

Cafodd John 'Jack' Williams, 67, ei dargedu mewn lladrad ym mis Mawrth eleni, meddai'r erlyniad yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher.

Dywedodd Mike Jones QC fod Johnathan Donne, 42, Gemma Owens, 31, a Simon Cairns, 45, wedi cynllunio'r drosedd a'u bod yn fodlon defnyddio trais ac achosi "niwed difrifol pe byddai angen".

Mae Donne, Owens a Cairns yn gwadu llofruddio ac mae Faisal Kadir yn gwadu cynorthwyo troseddwr.

Clywodd y llys bod Mr Williams wedi bod yn "tyfu, ac i raddau gwerthu, canabis o'i gartref" a bod y tri amddiffynnydd yn credu y byddai ganddo lawer o arian a chyffuriau.

'Bywyd wedi chwalu'

Cafwyd hyd i gorff Mr Williams yn ei gartref yn Ffordd Pentre-chwyth yn y ddinas am tua 12:30 dydd Sadwrn, 31 Mawrth.

Roedd yn cael ei adnabod yn lleol fel 'Jack,' roedd wedi ymddeol, ac yn byw yn yr ardal ers sawl blwyddyn.

Mewn teyrnged, dywedodd ei deulu bod eu bywydau "wedi eu chwalu" ac y byddai "colled am Jack gan bawb oedd yn ei garu ac yn ei 'nabod".

Mae'r achos yn parhau.