Tân Aberystwyth: Dyn yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio

  • Cyhoeddwyd
tan aberystwythFfynhonnell y llun, Keith Morris

Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn tân mewn gwesty yn Aberystwyth wedi ymddangos yn y llys.

Fe aeth Damion Anthony Harris, 31 o Lanbadarn, gerbron ynadon Aberystwyth ddydd Iau drwy linc fideo ar ddau gyhuddiad wedi'r digwyddiad yn Nhŷ Belgrave yn oriau mân y bore ar 25 Gorffennaf.

Mae Mr Harris yn wynebu cyhuddiadau o lofruddio Juozas Tunaitis ac achosi niwed corfforol difrifol bwriadol i westai arall yn y gwesty, Richard Simnett.

Clywodd y llys na fyddai modd delio gyda'r cyhuddiadau yn y llys ynadon ac felly ni ofynnwyd i Mr Harris i roi ple.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener.