Dyn busnes yn beirniadu Amazon ar ôl twyll £22,000

  • Cyhoeddwyd
Rob Dobney
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mr Dobney ei fod wedi ceisio cysylltu ag Amazon am atebion

Mae dyn busnes o Sir Benfro sy'n gwerthu ei nwyddau drwy wefan Amazon yn dweud ei fod wedi colli dros £22,000 oherwydd twyll ar y rhyngrwyd.

Rob Dobney o Grymych yw perchennog Brooks Barn, busnes sy'n gwerthu 98% o'i gyfrannau ar gyfer beiciau modur a thŵls drwy wefannau fel E-Bay ac Amazon.

Fe ddaeth Mr Dobney yn ymwybodol o'r twyll ar ôl i'w gyfrifwyr sylweddoli fod arian o Amazon yn cael ei dalu i gyfrif arall yn hytrach na'i gyfrif ef.

Dywedodd fod 40% o'i fusnes yn cael ei wneud drwy wefan Amazon.

Mae'r busnes yn cyflogi 13 o bobl ar ystâd ddiwydiannol Crymych.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni o Grymych yn cyflogi 13 o staff

"Ers mis Ebrill eleni, mae Amazon wedi bod yn talu ein harian comisiwn, ein rhan ni o'r elw, i gyfrifon pobl eraill... Roedd y twyllwyr yn cymryd arian o'n cyfrif ni a'i roi yn eu cyfrifon nhw," meddai.

"Rhywsut mae'r cyfrifon banc wedi cael eu gwirio ar Amazon oherwydd mae'n amhosib just ychwanegu cyfrif banc.

"Mae'n rhaid i chi ei wirio gyda passport, bil neu bil ar gyfer y cartref.

"Mae'r broses wirio i fod yn ddiogel ond mae wedi methu.

"Wneith Amazon ddim siarad â fi er mwyn dweud pwy yw'r bobl yma. Mae yna chwech chyfri' ffug sydd wedi cael eu cysylltu gyda fy nghyfrif."

Yn ôl Mr Dobney dechreuodd y cyfan ym mis Ebrill, a hyd yma mae wedi colli £22,053.

Mae'n dweud y gall y cyfan gael effaith ar daliadau staff neu arwain at golli swyddi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae 98% o fusnes y cwmni yn cael ei wneud ar y we

Dywedodd Mr Dobney ei fod yn anhapus gyda'r modd mae Amazon wedi delio gyda'r achos, gan ddweud ei fod wedi cysylltu â nhw ar sawl achlysur dros y ddau fis diwethaf.

Fe gafodd y twyll ei ddarganfod ym mis Awst.

Ychwanegodd: "Mae angen rhyw fath o atebolrwydd ar y cwmnïau mawr yma.

"Fe allwn ni fynd i'r wal oherwydd hyn ac mae fel petai Amazon ddim yn hidio. Mae angen i Amazon gysylltu â ni."

Mae Mr Dobney wedi cyfeirio'r achos at Action Fraud, y corff sy'n ymchwilio i dwyll ar y rhyngrwyd yn y Deyrnas Unedig.

Fe wnaeth BBC Cymru ofyn i Amazon am ymateb i achos Mr Dobney, ond maen nhw wedi gwrthod gwneud sylw.