Cyhuddo dyn wedi gwrthdrawiad ar yr A499 ger Glynllifon
- Cyhoeddwyd

Roedd rhan o'r A499 wedi cau fore Gwener
Mae dyn o ardal Knutsford wedi cael ei gyhuddo o yrru'n beryglus ar ôl gwrthdrawiad yng Ngwynedd ddydd Gwener.
Cafodd yr heddlu eu galw am 05:10 i'r A499 rhwng y gyffordd am Dinas Dinlle ac Allt Goch, Penygroes, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng pick-up Ford Ranger oren a fan VW Caddy.
Fe fydd y dyn 29 oed yn ymddangos gerbron Ynadon Llandudno ddydd Sadwrn a bydd hefyd yn wynebu cyhuddiad o beidio â stopio ar ôl gwrthdrawiad.
Cafodd gyrrwr y fan, dyn lleol, ei gludo i Ysbyty Gwynedd gydag anafiadau difrifol ond rhai sydd ddim yn peryglu bywyd.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn awyddus i siarad ag unrhyw un welodd y Ford Ranger oren yn teithio rhwng 04:30 a 05:00 o gyfeiriad Caernarfon.
Fe gaeodd y ffordd am gyfnod cyn ailagor am 08:00.